Eglwys Sant Garmon, Adamsdown
![]() | |
Math | eglwys ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Adamsdown ![]() |
Sir | Caerdydd, Adamsdown ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 12 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.48444°N 3.15944°W ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Cysegrwyd i | Garmon ![]() |
Manylion | |
Eglwys Anglicanaidd yn Adamsdown, Caerdydd, yw Eglwys Sant Garmon (Saesneg: Saint German's Church). Fe'i hadeiladwyd i gynlluniau'r penseiri George Frederick Bodley a Thomas Garner ym 1881–1884, a caiff ei hystyried yn un o'u campweithiau.[1] Yn ôl un hanesydd pensaernïol yr eglwys hon a "gyflwynodd Gothig Fictoraidd hwyr i dde Cymru".[2] Mae'n adeilad ar raddfa eang ac oddi mewn mae'r bwâu ar hyd corff yr eglwys ar naill ochr yn ymestyn bron i'r nenfwd, gan roi effaith agored tebyg i Hallenkirchen gogledd Ewrop.[1] Mae addoliad yr eglwys yn y traddodiad Eingl-Gatholig, a oedd ar ei anterth yn yr 1880au.[3]
Penodwyd yr eglwys yn adeilad rhestredig Gradd I ym 1952 fel "un o adeiladau crefyddol harddaf y 19eg ganrif yng Nghymru" ac "eglwys aruthrol o goeth a chain gan bensaer [sic] pwysig a dylanwadol".[4]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Jenkins, Simon (2008). Wales: Churches, Houses, Castles. Llundain: Penguin. t. 155.
- ↑ Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 300.
- ↑ Rose, Jean (2013). Cardiff Churches Through Time. Stroud: Amberley Publishing. t. 22.
- ↑ (Saesneg) Church of St German of Auxerre, Adamsdown. British Listed Buildings. Adalwyd ar 5 Ebrill 2014.