Geraint H. Jenkins
Jump to navigation
Jump to search
Geraint H. Jenkins | |
---|---|
Ganwyd |
Geraint Huw Jenkins ![]() 24 Ionawr 1946 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
academydd, hanesydd ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au |
Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd yr Academi Brydeinig ![]() |
Hanesydd Cymreig yw'r Athro Geraint Huw Jenkins (ganwyd 24 Ionawr 1946). Ganwyd ym Mhenparcau, Aberystwyth. Bu'n Athro a phennaeth Adran Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth cyn ei benodi'n gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn 1993. O 1993 hyd 2007 bu’n Gadeirydd a Chyfarwyddwr Ymchwil Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Ymddeolodd ym mis Medi 2008 ac fe'i gwnaed yn Athro Emeritws Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru.
Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor cychwynnol.
Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Thomas Jones yr Almanaciwr (Caerdydd, 1980)
- Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar (Caerdydd, 1983)
- Cadw Tŷ mewn Cwmwl Tystion (Llandysul, 1990)
- Prifysgol Cymru: hanes darluniadol (Caerdydd, 1993)
- The Foundations of Modern Wales (Oxford Paperbacks, 1993)
- Doc Tom: Thomas Richards (Caerdydd, 1999)
- A Concise History of Wales (Cambridge University Press, 2007)
- Diwylliant Gweledol Cymru (golygydd) (6 cyfrol 1997–2003)
- Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg (golygydd) (11 cyfrol 1997–2000)
- Cof Cenedl Cyfres o 24 llyfr o ysgrifau ar hanes Cymru (Gwasg Gomer) Golygydd