Gethin Jones (cyflwynydd teledu)
Gethin Jones | |
---|---|
Ganwyd | 12 Chwefror 1978 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyflwynydd, chwaraewr rygbi'r undeb, cyflwynydd teledu |
Cyflogwr | |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cyflwynydd teledu yw Gethin Clifford Jones (ganwyd 12 Chwefror 1978). Cychwynodd ei yrfa gyflwyno ar raglenni Uned 5 a Popty ar S4C. Ar 27 Ebrill 2005, daeth yn 31ain cyflwynydd Blue Peter, y rhaglen deledu hir-hoedlog i blant ar y BBC. Daeth ei gyfnod ar y sioe i ben yn Mehefin 2008.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Jones yng Nghaerdydd, yn fab i Sylvia (née Groskop), athrawes feiloin, a Goronwy Jones, prifathro Ysgol Gynradd Baden Powell. Mae ganddo chwaer hŷn, Mererid.[1] Roedd un o'i hen ddadcu-od ar ochr ei fam yn mewnfudwr Iddewig Pwylaidd.[2][3] Cymraeg oedd ei iaith gyntaf, a mynychodd Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Mae ganddo gymwysterau Gradd 8 feiolin a Gradd 6 piano gan Fwrdd Cysylltiedig yr Ysgolion Cerdd Brenhinol,[4] a cymerodd ran mewn sioeau cerdd yn yr ysgol a chwarae mewn cherddorfeydd ysgol a sirol. Ar gyfer ei Lefel A dewisodd astudio Bioleg, Daearddiaeth ac Economeg [5][6][7]
Roedd gan Jones dau brif ddiddordeb yn yr ysgol. Roedd ei fam am iddo ddatblygu eu dalentau cerddorol, tra roedd e'n mwynhau chwarae rygbi. Tra'n astudio Economeg a Daearyddiaeth ym Prifysgol Fetropolitan Manceinion, lle enillodd radd 2:2,[4][6] roedd yn gapten tim rygbi cyntaf y brifysgol a chwaraeodd yn nhîm dan 21 Swydd Gaerhirfryn. Yn ei flwyddyn olaf yn y coleg, cynigiwyd prawf iddo gan Sale RFC.[6] Fodd bynnag, ar ôl i'w dad wrthod cynnig o gymorth ariannol ac fe gafodd trafferthion yn ceisio chwarae tra hefyd yn gweithio fel hyfforddwr gampfa, gan weld fod ei berfformiad ar y cae yn dioddef. Yn y pen draw, rhoddodd y gorau i'w gynlluniau ar gyfer gyrfa rygbi broffesiynol a dychwelodd i Gymru.[5]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd yn un o'r Jones's a dorodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.[8][9][10]
Cymrodd ran ar raglen Strictly Come Dancing ar BBC One, gan ddawnsio am y tro cyntaf ers iddo ddawnsio a chanu gwerin yn Eisteddfod yr Urdd pan oedd yn iau.[11][12]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ar 6 Chwefror 2011, cyhoeddwyd ei fod wedi dyweddïo i'w gariad, y gantores Katherine Jenkins.[13] Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr 2011 cyhoeddwyd fod y berthynas wedi dod i ben.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Catherine Evans (9 Rhagfyr 2007), "Katherine and Gethin's first meeting", Wales on Sunday (atgynhyrchwyd ar icWales.co.uk), http://icwales.icnetwork.co.uk/whats-on/whats-on-news/2007/12/09/katherine-and-gethin-s-first-meeting-91466-20223485
- ↑ [1]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-20. Cyrchwyd 2016-06-16.
- ↑ 4.0 4.1 David Greenwood (25 Ionawr 2005), "Blue Peter job is like a dream", Daily Post (atgynhyrchwyd ar icNorthWales.co.uk), http://icnorthwales.icnetwork.co.uk/news/regionalnews/tm_objectid=15113905&method=full&siteid=50142&headline=blue-peter-job-is-like-a-dream-name_page.html
- ↑ 5.0 5.1 Jenny Johnston (19 Rhagfyr 2007), "From rugby player to ballroom star: Strictly's 'Gorgeous Gethin' driven to succeed by a need for his father's approval", Daily Mail (London), http://www.dailymail.co.uk/pages/live/articles/showbiz/showbiznews.html?in_article_id=503563&in_page_id=1773
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Jonatha Sale [interviewer] (15 Mawrth 2007), "Passed/Failed: An education in the life of Gethin Jones, 'Blue Peter' presenter: 'All of my lessons were in Welsh'", The Independent (London), http://student.independent.co.uk/future/careers_advice/article2356916.ece[dolen farw]
- ↑ gan ennill E yn bioleg, D yn daearyddiaeth, C yn Economeg a A mewn cerddoriaeth Lefel AS. Jonathan Sale [interviewer] (15 March 2007), "Passed/Failed: An education in the life of Gethin Jones, 'Blue Peter' presenter: 'All of my lessons were in Welsh'", The Independent (London), http://student.independent.co.uk/future/careers_advice/article2356916.ece[dolen farw]
- ↑ 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
- ↑ "1,224 o Jonesiaid yn torri record byd!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-01. Cyrchwyd 2007-11-07.
- ↑ Meet the Joneses for world record BBC 19 Gorffennaf 2006
- ↑ Show has a grand day out with Gethin Jones, Sian Eirian, Western Mail 22 Tachwedd 2007
- ↑ "Gethin ar wefan Strictly Come Dancing". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-23. Cyrchwyd 2007-11-23.
- ↑ Katherine Jenkins, Gethin Jones engaged Archifwyd 2011-02-08 yn y Peiriant Wayback Gwefan Digitial Spy. 06-02-2011.
Rhagflaenydd: Simon Thomas |
Cyflwynydd Blue Peter Rhif 31 2005 – 2008 |
Olynydd: Joel Defries |