Uned 5

Oddi ar Wicipedia
Uned 5
Genre Plant
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Dime Goch
Amser rhedeg 60 munud (gyda hysbysebion)
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Darllediad gwreiddiol Chwefror 199430 Mai 2010
Cysylltiadau allanol
Proffil IMDb

Rhaglen gylchgrawn hirhoedlog ar S4C oedd Uned 5. Dechreuodd y rhaglen mis Chwefror 1994 a denodd nifer fawr o wylwyr ifanc i'r sianel.

Cafodd y rhaglen ei ffilmio yn Stiwdio Barcud Derwen ar Stad Cibyn, Caernarfon. Roedd y stiwdio yn arfer bod ar ffurf "tŷ". Ond, wrth i'r gyfres ddechrau apelio at gynulleidfa ychydig yn hŷn, daeth y fformat tŷ i ben. Yn y blynyddoedd cyntaf, roedd trefn y gyfres yn debyg iawn i'r rhaglen Saesneg Blue Peter, ond yn fwy diweddar anelwyd y rhaglen yn fwy at gynulleidfa o bobl ifanc yn eu harddegau. Cwmmni Dime Goch, rhan o gwmni teledu Antena, oedd yn cynhyrchu'r rhaglen.

Roedd y rhaglen yn cynnwys golwg ar y cyfryngau a'r ffilmiau diweddaraf, edrych ymlaen at bêl-droed y penwythnos, sgwrs gyda gwestai arbennig, slot ffasiwn, bandiau'n chwarae'n fyw a nifer o eitemau eraill.

Daeth Uned 5 i ben ar ddydd Sul, 30 Mai 2010. Mae sianel Uned 5 ar YouTube yn archif sy'n cynnwys nifer fawr o glipiau o'r rhaglen.[1]

Cyflwynwyr[golygu | golygu cod]

Y cyflwynwyr gwreiddiol: Gaynor Davies,Garmon Emyr a Nia Dafydd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Datganiad Gwasanaethau Plant 13+, Newyddion Cynhyrchiad S4C, 24 Tachwedd 2009

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.