Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd
Arwyddair Cofia Ddysgu Byw
Sefydlwyd 1979
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr Illtud James
Dirprwy Bennaeth Mrs Catrin Dumbrill
Lleoliad Heol Glan y Nant, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, Cymru, CF14 1AP
AALl Cyngor Caerdydd
Staff 53 (2015)[1]
Disgyblion tua 475[2]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Llysoedd Taf, Thawan, Rhymni, Elai
Gwefan http://www.ygmg.com/

Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg yn ardal yr Eglwys Newydd, Caerdydd yw Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd. Y prifathro presennol yw Mr Illtud James.[3].[4]

Sefydlwyd yr ysgol fel ysgol gynradd benodedig Gymraeg, agorodd ym 1979, gyda tua 370 o ddisgyblion.[5] Yn 2003, roedd tua 350 o ddisgyblion ar y gofrestr ac erbyn 2015 roedd 475.[4] Roedd yn un o'r bedair ysgol a sefydlwyd yn sgil diddymu Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf yn 1980 i ateb galw'r tŵf mewn addysg Gymraeg yng Nghaerdydd. Agorwyd yr ysgol ar safle Yr Erw Las yn rhannu adeiladau gyda Ysgol Gynradd Eglwys Wen. Y prifathro cyntaf oedd Gareth Evans.[6]

Mewn ymateb i'r galw am fwy o addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd fe symudodd yr ysgol i hen safle Ysgol Gynradd Eglwys Newydd yn Heol Glan y Nant yn mis Medi 2012. Estynnwyd yr adeilad gwreiddiol i ddarparu ystafelloedd dosbarth newydd, ystafell gyfrifiaduron, llyfrgell a uned feithrin. Roedd y safle newydd yn cynnig lle ar gyfer 420 disgybl yn cynnwys 32 lle meithrin (64 rhan amser).[1][2]

Cyn-ddisgyblion o nôd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.