Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Gwedd
| Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern | |
|---|---|
| Sefydlwyd | 2012 |
| Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
| Cyfrwng iaith | Cymraeg |
| Pennaeth | Iwan Pritchard[1] |
| Lleoliad | Heol Llanedern, Pen-y-lan, Caerdydd, Cymru, CF23 9DT |
| AALl | Cyngor Caerdydd |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 11–18 |
| Llysoedd | Hafren (gwyrdd), Rhymni (coch), Taf (glas) |
| Lliwiau | Du a Glaswyrdd |
| Cyhoeddiad | Yr Elain |
| Gwefan | ysgolbroedern.org.uk |
Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn ardal Pen-y-lan, Caerdydd yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Hon oedd y drydedd ysgol uwchradd Gymraeg i agor yng Nghaerdydd (ar ôl Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr).
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd yr ysgol ym mis Medi 2012 ar ran o safle Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Symudodd i hen adeiladau Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant ym Mhen-y-lan ar ddechrau Medi 2013.[2]
Ysgolion dalgylch
[golygu | golygu cod]- Ysgol Bro Eirwg
- Ysgol y Berllan Deg
- Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-Groes (er 2016)
- Ysgol Pen y Pîl (er 2014)[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pritchard named as new head. News Edge: Industry News (26 Ionawr 2012). Adalwyd ar 22 Mehefin 2012.
- ↑ Gwybodaeth ychwanegol o ran trefniadau derbyn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Cyngor Caerdydd (28 Hydref 2011). Adalwyd ar 22 Mehefin 2012.
- ↑ Dyfodol trydedd ysgol uwchradd Gymraeg Caerdydd yn ddiogel. Rhieni Dros Addysg Gymraeg (28 Hydref 2011). Adalwyd ar 22 Mehefin 2012.