Rhestr o etholaethau seneddol y DU yng Nghymru
| Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
|
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
Mae Cymru wedi'i rhannu'n dri deg dau etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig (y DU), sy'n ethol Aelodau Seneddol i Dŷ'r Cyffredin.
Yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yng Nghymru yn 2024, etholwyd 27 o ASau Llafur, 4 AS Plaid Cymru ac 1 AS Democratiaid Rhyddfrydol. Collodd y Blaid Geidwadol bob un o'u 13 AS yng Nghymru.
Mae hyn yn ostyngiad o bedwar-deg etholaeth yn etholiad cyffredinol y DU yn Rhagfyr 2019 a oedd wedi arwain at 22 cynrychiolydd o etholaethau Cymru gan ASau Llafur, 14 gan ASau Ceidwadol, a 4 gan ASau Plaid Cymru.[1] Gostyngwyd nifer yr etholaethau o 40 i 32,[2] gan Gomisiwn Ffiniau Cymru ffiniau'r etholaethau newydd, yn dilyn proses a ddechreuodd yn 2021 [3] ac a ddaeth i ben ar 28 Mehefin 2023 pan gyhoeddodd Adolygiad Cyfnodol 2023 o etholaethau San Steffan eu hargymhellion terfynol. [2]
Yn 2026, bydd gan Senedd Cymru 16 etholaeth Senedd yn hytrach na'r 32 presennol, gyda pharu ffiniau etholaeth Senedd y DU i greu'r etholaethau newydd.
Etholaethau ers 2024
[golygu | golygu cod]
Mapiau
[golygu | golygu cod]-
2010
-
2015
-
2017
-
2024
Dyma fapiau o ganlyniadau'r pedwar etholiad cyffredinol diwethaf yng Nghymru.
- Mae Coch yn cynrychioli ASau'r Blaid Lafur.
- Mae Glas yn cynrychioli ASau'r Blaid Geidwadol.
- Mae Oren yn cynrychioli ASau'r Democratiaid Rhyddfrydol.
- Mae Gwyrdd yn cynrychioli ASau Plaid Cymru.
- Mae Llwyd yn cynrychioli ASau Annibynnol.
Map o'r etholaethau cyn Mehefin 2024 ac wedi Mehefin 2024
[golygu | golygu cod]- Etholaethau seneddol y DU
-
y 40 etholaethau seneddol cyn 2024
-
y 32 etholaethau seneddol o 2024 ymlaen
Etholaethau o 2024 ymlaen
[golygu | golygu cod]O Fehefin 2024 roedd 32 etholaeth:
- Aberafan Maesteg
- Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe
- Alun a Glannau Dyfrdwy
- Bangor Aberconwy
- Blaenau Gwent a Rhymni
- Bro Morgannwg
- Caerfyrddin
- Caerffili
- Canol a De Sir Benfro
- Castell-nedd a Dwyrain Abertawe
- Ceredigion Preseli
- De Caerdydd a Phenarth
- Dwyfor Meirionnydd
- Dwyrain Caerdydd
- Dwyrain Casnewydd
- Dwyrain Clwyd
- Gogledd Caerdydd
- Gogledd Clwyd
- Gorllewin Abertawe
- Gorllewin Caerdydd
- Gorllewin Casnewydd ac Islwyn
- Gŵyr
- Llanelli
- Maldwyn a Glyndŵr
- Merthyr Tudful ac Aberdâr
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Pontypridd
- Rhondda ac Ogwr
- Sir Fynwy
- Torfaen
- Wrecsam
- Ynys Môn
Cyn-Etholaethau
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Wales 2019 results". Election 2019 Results. BBC. Cyrchwyd 15 December 2019.
- ↑ 2.0 2.1 "Wales' new parliamentary constituencies published". Boundary Commission for Wales. Cyrchwyd 2023-06-28.
- ↑ "Major changes to cut number of Welsh MPs published". BBC News (yn Saesneg). 2021-09-08. Cyrchwyd 2021-09-08.