De Morgannwg (etholaeth seneddol)

Oddi ar Wicipedia
De Morgannwg
Etholaeth Sir
Creu: 1885
Diddymwyd: 1918
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Roedd De Morgannwg yn etholaeth seneddol a oedd yn dychwelyd un Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin Senedd y Deyrnas Unedig rhwng 1885 a 1918.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Crëwyd yr etholaeth o dan Ddeddf Ailddosbarthu Seddi 1885 ar gyfer etholiad cyffredinol 1885, a chafodd ei diddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1918. O holl seddi Morgannwg a grëwyd trwy ailddosbarthu 1885, De Morgannwg oedd yr unig un lle na allai'r Blaid Ryddfrydol fod yn sicr o fuddugoliaeth. Roedd teuluoedd Bute a Dunraven yn ddylanwad pwerus yn yr etholaeth. Roedd ardaloedd glofaol y Rhondda a thref gosmopolitan y Barri yn gefnogol i'r Rhyddfrydwyr ond roedd ardaloedd mwy llewyrchus Bro Morgannwg, Penarth a Llandaf yn dueddol o gefnogi'r Ceidwadwyr.

Ffiniau[golygu | golygu cod]

Crëwyd yr etholaeth allan o ran o hen etholaeth Sir Forgannwg a oedd wedi bod mewn bodolaeth ers 1541. Roedd ffiniau'r sedd newydd yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Coety, Ewenni, Ogwr, Llanhari, Llanharan, Y Bont-faen, Llanilltud Fawr, Dinas Powys, Pendeulwyn, Tresimwn, Y Barri, Penarth, yr Eglwys Newydd, Llys-faen, Radur, Sain Ffagan, Llanisien, Llantrisant, Tonyrefail, Pontyclun, a'r Beddau.

Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Aelwyd Plaid
1885 Arthur John Williams Rhyddfrydol
1895 Henry Wyndham-Quin Ceidwadol
1906 William Brace Rhyddfrydwr Llafur
1918 dileu'r etholaeth

Canlyniad etholiadau[golygu | golygu cod]

Etholiadau yn y 1910au[golygu | golygu cod]

William Brace ym 1906
Etholiad cyffredinol Rhagfyr, 1910: De Morgannwg [1]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydwr Llafur William Brace 10,190 58.43 -2.62
Ceidwadwyr Lewis Morgan 7,252 41.58 +2.62
Mwyafrif 2,938 16.85 -5.24
Y nifer a bleidleisiodd 17,442 75.99 -6.89
Rhyddfrydwr Llafur yn cadw Gogwydd +2.62
Etholiad cyffredinol, Ionawr 1910: De Morgannwg [2]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydwr Llafur William Brace 11,612 61.05 -2.25
Ceidwadwyr Lewis Morgan 7,411 38.96 +2.26
Mwyafrif 4,201 22.09 -4.51
Y nifer a bleidleisiodd 19,023 82.88
Rhyddfrydwr Llafur yn cadw Gogwydd +2.26

Etholiadau yn y 1900au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1906: De Morgannwg
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydwr Llafur William Brace 10,514 63.3
Ceidwadwyr Windham Henry Wyndham-Quin 6,096 36.7
Mwyafrif 4,418 -
Y nifer a bleidleisiodd 80.9
Rhyddfrydwr Llafur yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1900: De Morgannwg
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Windham Henry Wyndham-Quin 6,841 52
Rhyddfrydol Walter H. Morgan 6,322 48 -
Mwyafrif 519 -
Y nifer a bleidleisiodd 73.2
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1890au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1895: De Morgannwg
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Windham Henry Wyndham-Quin 5,747 53.9
Rhyddfrydol Arthur John Williams 4,922 46.1 -
Mwyafrif 825 -
Y nifer a bleidleisiodd 75.0
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Arthur J Williams AS
Cartŵn Papur Pawb 1893
Etholiad cyffredinol 1892: De Morgannwg
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Arthur John Williams 4,743 55.4 -
Ceidwadwyr Syr Morgan Morgan 3,825 44.6
Mwyafrif 918 -
Y nifer a bleidleisiodd 68.6
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1880au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1886: De Morgannwg
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Arthur John Williams 3,497 61.6 -
Unoliaethol Ryddfrydol James Mowatt 2,177 38.4
Mwyafrif 1,320 -
Y nifer a bleidleisiodd 64.4
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1885: De Morgannwg
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Arthur John Williams 3,945 54.1 -
Ceidwadwyr John Talbot Dillwyn-Llewelyn 3,351 45.9
Mwyafrif 594 -
Y nifer a bleidleisiodd 82.9

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Times House of Commons Guide 1910, 1911, 1919, Poltico's Publishing Page 101 1911 Section
  2. The Times House of Commons Guide 1910, 1911, 1919, Poltico's Publishing Page 92 1910 Section