Arthur John Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arthur John Williams
Arthur-John-Williams.jpg
Arthur J Williams AS
Cartŵn Papur Pawb 1893
Ganwyd 14 Ebrill 1834 Edit this on Wikidata
Bu farw 1911 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Roedd Arthur John Williams (14 Ebrill, 183412 Medi, 1911) yn gyfreithiwr, yn awdur ac yn gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol De Forgannwg o 1885 i 1895

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Williams ei eni ym Mhen-y-bont yn fab i'r Dr John Morgan Williams. Roedd Arthur John Williams yn un o ymddiriedolwyr y tir y mae'r pentref Trewiliam wedi ei adeiladu arno ac a enwyd o glod i'w enw teuluol. Cafodd addysg breifat cyn mynd i astudio'r gyfraith.

Ym 1878 priododd Rose Harritte Thomson Crawshay, bu iddynt dau fab bu'r mab hynaf Eliot Crawshay-Williams yn AS Caerlŷr o 1910 i 1913. Doedd tad Rose, Robert Thompson Crawshay, y meistr haearn o Gastell Cyfarthfa dim yn cymeradwyo'r briodas, gwrthododd mynychu'r seremoni a thorrodd Rose allan o'i ewyllys.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Williams ei alw i'r Bar yn y Deml Fewnol ym 1867. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd mygedol i Gymdeithas y Gyfraith a'r Gymdeithas Addysg Gyfreithiol.

Ym 1869 cyhoeddodd Williams ei lyfr cyntaf, The Appropriation of the Railways by the State, y cyntaf o lawer o gyhoeddiadau a oedd yn ymwneud yn bennaf â phryderon cyfreithiol ac economaidd. Ym 1878 cafodd Williams yn ei benodi i swydd Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol ar Ddamweiniau mewn Mwyngloddiau, gan ymchwilio i achosion lawer o drychinebau glofaol ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

National Liberal Club

Safodd Williams yn etholaeth Penbedw fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol 1880, ond fe fu'n aflwyddiannus yn ei ymgais i gael ei ethol. Ym 1882 fe gynigiodd sefydlu'r National Liberal Club, clwb i ŵyr bonheddig oedd yn cefnogi'r achos Rhyddfrydol; sefydlwyd y clwb yn swyddogol ym 1884 ac agorwyd adeiladau'r clwb ar Arglawdd y Tafwys ym 1887, lle mae'n sefyll o hyd (er bod hawl i ferched ymuno bellach).[2]

Yn 1885 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol De Morgannwg gan dal y sedd tan 1895, pan gafodd ei drechu gan y Ceidwadwyr. Fel AS bu'n ymgyrchu dros gynrychiolaeth gyfrannol a diddymu Arglwyddi Etifeddol yn Nhŷ'r Arglwyddi. Roedd yn gefnogol iawn i ddatgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru, yn aelod brwd o Gymru Fydd ac yn gefnogwr cryf i achos ymreolaeth i Gymru.[3]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Appropriation of the Railways by the State London (1868)
  • Hints to Honest Citizens on Going to Law Cassell & Co. (1885)
  • How to Avoid Law Cassell & Co. (1888)

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Williams yn ei gartref, Coed y Mwstwr, Llangrallo yn 77 mlwydd oed a rhoddwyd ei lwch i orwedd ym mynwent eglwys y plwyf.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Archifau Cymru Papurau A J Williams [1] adalwyd 29 Mehefin 2015
  2. Robert Steven, The National Liberal Club: Politics and Persons (Robert Holden, London, 1925)
  3. Papur Pawb 22 Ebrill 1893 Arthur John Williams AS [2] adalwyd 29 Mehefin 2015
  4. Aberdeen Journal 13 Medi 1911 Death of Mr A J Williams
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol De Forgannwg
18851895
Olynydd:
Windham Henry Wyndham-Quin