Robert Thompson Crawshay

Oddi ar Wicipedia
Robert Thompson Crawshay
Ganwyd3 Mawrth 1817 Edit this on Wikidata
Gwaith Haearn Cyfarthfa Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mai 1879 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmetelegwr Edit this on Wikidata
TadWilliam Crawshay II Edit this on Wikidata
MamIsabella Thompson Edit this on Wikidata
PriodRose Mary Crawshay Edit this on Wikidata
PlantWilliam Thomson Crawshay, Rose Harriott Crawshay, Henrietta Louisa Crawshay, Robert Thompson Crawshay Edit this on Wikidata

Diwydiannwr a pherchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful oedd Robert Thompson Crawshay (8 Mawrth 181710 Mai 1879).

Ganed ef yng Nghyfartha. Roedd yn fab i William Crawshay II. Pan ymddeolodd William Crawshay i Caversham yn Lloegr yn 1847, trosglwyddodd waith haearn Cyfarthfa i Robert, a'r gweithfeydd haearn eraill i ddau fab arall.

Daeth Robert yn ffigwr dylanwadol dros ben ym mywyd diwydiannol de Cymru, er i anghydfod diwydiannol efeithio ar weithfeydd Cyfarthfa yn y 1870au. Robert oedd yn gyfrifol am sefydlu Band Cyfarthfa. Dywedir ei fod hefyd yn ferchetwr o fri. Cynorthwyodd ef a'i wraig, Rose Mary Crawshay, gyda'r gwaith o godi ysgolion.

Bu farw pan ar ymweliad a Cheltenham. Claddwyd ef ym mynwent y Faenor. Ar ei garreg fedd, ceir yr arysgrif "God forgive me". Cadwyd y busnes ymlaen gan ei feibion fel Messrs. Crawshay Bros. am gyfnod, ond gwerthwyd ef i Guest, Keen, and Nettlefold yn 1902.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]