Neidio i'r cynnwys

Y Faenor, Merthyr Tudful

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Y Faenor (Merthyr Tudful))
Y Faenor
Eglwys Sant Gwynno, y Faenor
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,551, 3,396, 3,465 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMerthyr Tudful Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,844.21 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7847°N 3.3858°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000881 Edit this on Wikidata
Cod OSSO045105 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruDawn Bowden (Llafur)
AS/au y DUGerald Jones (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Faenor[1] neu y Faenor (Saesneg: Vaynor).[2] Saif yn rhan ogleddol y sir, i'r gogledd o dref Merthyr. Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys y pentrefi Cefn Coed y Cymer, Pontsticill a Trefechan. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,465.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4]

Roedd cynullidfa Undodaidd bwysig yn addoli yn Hen Dŷ Cwrdd Cefncoedycymer, ac mae'r gymuned yn cynnwys y fynwent Iddewaidd fwyaf yng Nghymru gerllaw'r briffordd A470.

Claddwyd Robert Thompson Crawshay, un o'r teulu enwog o feistri haearn, ym mynwent eglwys y Faenor. Ar ei garreg fedd, ceir yr arysgrif "God forgive me".

Saif tomen mwnt a beili o'r enw Mwnt Cae Burdydd‎ yn agos o'r pentref.


Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Faenor, Merthyr Tudful (pob oed) (3,551)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Faenor, Merthyr Tudful) (328)
  
9.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Faenor, Merthyr Tudful) (3166)
  
89.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Faenor, Merthyr Tudful) (613)
  
40.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Medi 2019
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-24.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]