Aberfan
![]() | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Merthyr Tudful ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.6933°N 3.3457°W ![]() |
Cod OS |
SO070002 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Dawn Bowden (Llafur) |
AS/au | Gerald Jones (Llafur) |
![]() | |
Pentref ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful yw Aberfan[1] (hefyd Aber-fan), sydd wedi'i lleoli yng nghymuned Ynysowen. Rhed Afon Taf yn ogystal â Llwybr Taf (sy'n dirwyn o Droed-y-rhiw, i Dreharris) trwy'r pentref. Saif tua 6.4 km i'r de o Ferthyr Tydfil. Ceir dwy ysgol yma: Ysgol Gynradd Ynysowen ac Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug.
Trychineb Aberfan[golygu | golygu cod y dudalen]
Ddydd Gwener, 21 Hydref 1966, am 9.15 y bore, llithrodd tomen lo o weithfa rhif 7 i lawr llethrau'r bryniau uwchlaw'r pentref gan gladdu Ysgol Gynradd Pantglas ac ugain o dai a ffermdy. Lladdwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant, gyda'r mwyafrif ohonynt rhwng 7 a 10 oed. Lladdwyd pump athro yn y drychineb. Dim ond cnewllyn o ddisgyblion a oroesodd y digwyddiad.
Roedd y domen lo yn cynnwys creigiau o bwll glo lleol. Roedd y disgyblion newydd adael y gwasanaeth boreuol yn y neuadd, lle buont yn canu "All Things Bright and Beautiful", am eu hystafelloedd dosbarth, pan glywsant sŵn mawr y tu allan. Roedd yr ystafelloedd dosbarth ar ochr y tirlithriad.
Rhoddwyd y bai am y drychineb ar y Bwrdd Glo Cenedlaethol gan dribiwnlys, ac fe'i orchmynnwyd i dalu iawndal o £500 am bob plentyn i deuluoedd ag dyma yn marw. Darganfuwyd fod y tomen lo wedi bod yn suddo ers misoedd, ond ni wnaethpwyd dim am y mater. Dywedwyd fod dwr wedi cynyddu yn y pentwr o wastraff ar ben y mynydd gan achosi i'r gwastraff lifo i lawr y mynydd.
Ar ôl nifer o apeliadau, defnyddiwyd rhan o'r gronfa i wneud gweddill y tip glo yn ddiogel ac osgôdd y Bwrdd Glo Cenedlaethol y gost lawn o wneud hyn. Ad-dalodd llywodraeth y Blaid Lafur £150,000 ym 1997, ond pe bai chwyddiant wedi cael ei ystyried byddai'r swm hwn yn agos i £2 miliwn.
Caewyd y pwll glo ym 1989.
Ym mis Chwefror 2007 cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad gyfraniad o £2 filiwn i Gronfa Goffa Trychineb Aberfan, fel rhyw fath o iawndal am yr arian a gafodd y llywodraeth yn y cyfnod yn union ar ôl y drychineb.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ British Place Names; adalwyd 13 Medi 2019
Abercannaid · Aberfan · Bedlinog · Cefn Coed y Cymer · Dowlais · Heolgerrig · Y Faenor · Merthyr Tudful · Mynwent y Crynwyr · Pentrebach · Pontsticill · Pontygwaith · Treharris · Trelewis · Troed-y-rhiw · Ynysowen