Pontygwaith, Merthyr Tudful
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Merthyr Tudful ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.670133°N 3.330789°W ![]() |
Cod OS |
ST080976 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Dawn Bowden (Llafur) |
AS/au | Gerald Jones (Llafur) |
![]() | |
- Peidiwch â chymysgu y pentref hwn â Pont-y-gwaith ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf.
Pentref ym mwrdeisdref sirol Merthyr Tudful yw Pontygwaith. Fe'i lleolir yng nghymuned Treharris. Saif gerllaw Afon Taf.
Sefydlwyd gwaith haearn bychan yma gan Anthony Morley yn 1583. Adeiladwyd bythynnod ar ddechrau'r 19g i gartrefu gweithwyr Camlas Morgannwg. Ychydig o'r pentref gwreiddiol sy'n weddill bellach; dymchwelwyd y mwyafrif o adeiladau i wneud lle i'r A470 yn y 1980au.[1] Mae Llwybr Taf yn mynd heibio hen safle'r pentref.
Enwir y pentref ar ôl pont yn groesi Afon Taf yma. Y bont gerrig sy'n sefyll yno heddiw a ddisodlodd strwythur pren cynharach ym 1811.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) "Pontygwaith"; Gwefan Old Merthyr Tydfil; adalwyd 14 Medi 2019
- ↑ "ST0897: Pont Y Gwaith"; Gwefan Geograph; adalwyd 14 Medi 2019
Abercannaid · Aberfan · Bedlinog · Cefn Coed y Cymer · Dowlais · Heolgerrig · Y Faenor · Merthyr Tudful · Mynwent y Crynwyr · Pentrebach · Pontsticill · Pontygwaith · Treharris · Trelewis · Troed-y-rhiw · Ynysowen