Y Faenor, Merthyr Tudful

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Faenor
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.7847°N 3.3858°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000881 Edit this on Wikidata
Cod OS SO045105 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dawn Bowden (Llafur)
AS/au Gerald Jones (Llafur)
Eglwys Sant Gwynno, y Faenor

Pentref a chymuned yn rhan ogleddol bwrdeisdref sirol Merthyr Tudful yn ne Cymru yw y Faenor (Saesneg: Vaynor[1]). Saif i'r gogledd o dref Merthyr, ac mae'r gymuned hefyd yn cynnwys y pentrefi Cefn Coed y Cymer, Pontsticill a Trefechan. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,465.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dawn Bowden (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Gerald Jones (Llafur).[2][3]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd cynullidfa Undodaidd bwysig yn addoli yn Hen Dŷ Cwrdd Cefncoedycymer, ac mae'r gymuned yn cynnwys y fynwent Iddewaidd fwyaf yng Nghymru gerllaw'r briffordd A470.

Claddwyd Robert Thompson Crawshay, un o'r teulu enwog o feistri haearn, ym mynwent eglwys y Faenor. Ar ei garreg fedd, ceir yr arysgrif "God forgive me".

Saif tomen mwnt a beili o'r enw Mwnt Cae Burdydd‎ yn agos o'r pentref.


Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Faenor, Merthyr Tudful (pob oed) (3,551)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Faenor, Merthyr Tudful) (328)
  
9.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Faenor, Merthyr Tudful) (3166)
  
89.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Faenor, Merthyr Tudful) (613)
  
40.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. British Place Names; adalwyd 13 Medi 2019
  2. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
WalesMerthyrTydfil.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ferthyr Tudful. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.