Abercannaid
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Merthyr Tudful ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.7233°N 3.3644°W ![]() |
Cod OS |
SO058036 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Dawn Bowden (Llafur) |
AS/au | Gerald Jones (Llafur) |
![]() | |
Pentref ym mwrdeisdref sirol Merthyr Tudful yw Abercannaid (Saesneg: Abercanaid[1]). Fe'i lleolir yng nghymuned Troed-y-rhiw.
Saif ddwy filltir a hanner i'r de o ganol tref Merthyr Tudful, i'r gorllewin o bentref Pentrebach, a'r ochr arall o Afon Taf i bentref Troed-y-rhiw. Mae Camlas Morgannwg a Llwybr Taf yn arwain heibio'r pentref.
Tyfodd y pentref yn y 1860au, i wasanaethu Glofa'r Lucitania. Un o bobl nodedig Abercannaid a'r ardal gyfagos oedd Lucy Thomas, diwydiannwr Cymreig a pherchennog nifer o lofeydd.
Bu'r gantores Petula Clark yn byw yn Abercannaid pan yn blentyn.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ British Place Names; adalwyd 13 Medi 2019
Abercannaid · Aberfan · Bedlinog · Cefn Coed y Cymer · Dowlais · Heolgerrig · Y Faenor · Merthyr Tudful · Mynwent y Crynwyr · Pentrebach · Pontsticill · Pontygwaith · Treharris · Trelewis · Troed-y-rhiw · Ynysowen