Lucy Thomas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lucy Thomas
Ganwyd 1780s, 1781 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd 1781 Edit this on Wikidata
Bu farw 27 Medi 1847 Edit this on Wikidata (66 oed)
Achos: twymyn teiffoid Edit this on Wikidata
Abercannaid Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth perchennog, masnachwr, peiriannydd Edit this on Wikidata

Diwydianwr Cymreig o'r Waun Wyllt, Merthyr Tudful oedd Lucy Thomas (1781- 27 Medi 1847) a elwir weithiau'n "Fam Diwydiant Glo Cymru". Gyda'i gŵr Robert Thomas (1770-1829) a ddaeth yn wreiddiol o Lansamlet, a'i mab William, yn 1830, sefydlodd system i fasnachu glo Cymru yn Llundain yn ogystal â chloddio llawer o'r glo a oedd yng Nglofa Waun Wyllt ger Troed-y-rhiw ac Abercannaid, Merthyr Tudful i'w gwerthu'n uniongyrchol i'r cwsmer yn hytrach na thoddi haearn yn unig. Agorwyd y lofa gan ei gŵr yn 1824,[1] ac ystyriwyd ar y pryd mai dyma'r glo gorau, o ran safon y llosgi, drwy'r Cymoedd.

Codwyd ffynnon yn 1906 i gofio am eu gwaith, ac mae i'w weld heddiw, wedi'i adleoli yn 1966, ger Eglwys Sant Tydfil, Merthyr Tudful ar ochr deheuol yr hewl fawr.[2][3] Gwnaed y ffynnon gan W Macfarlane & Co, mewn ffwndri haearn yn Glasgow.

Wyres iddi oedd Anne (m. 1902; merch ei mab William), etifedd glofa Llety-Shenkin, Aberdâr.[4] Priododd Anne Syr William Thomas Lewis, yr arglwydd Merthyr o Senghenydd cyntaf a mab Thomas William Lewis, peiriannydd gwaith haearn 'Plymouth' ym Merthyr Tydfil. Daeth y ddau'n berchnogion nifer o byllau glo gan gynnwys y pyllau yn rhan isaf Cwm Rhondda a adwaenid yn ddiweddarach fel 'Glofa Lewis Merthyr'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. mtht.co.uk; cofebau Cadw; adalwyd 30 Ionawr 2016
  2. Nodyn ar y cerflun (ffynnon): ERECTED BY / SIR WILLIAM T. LEWIS / AND / WILLIAM THOMAS REES / OF ABERDARE / AND PRESENTED TO THEIR NATIVE / TOWN, IN COMMEMORATION OF / ROBERT AND LUCY THOMAS / OF WAUNWYLLT THE PIONEERS IN 1828 / OF THE / SOUTH WALES STEAM COAL TRADE IN THIS PARISH
  3. pmsa.org.uk; Public Monuments and Sculpture Association; adalwyd 30 Ionawr 2016
  4. Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 30 Ionawr 2016