Crawshay (teulu)

Oddi ar Wicipedia
Crawshay
Enghraifft o'r canlynolteulu Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRichard Crawshay, William Crawshay II, William Crawshay I, Robert Thompson Crawshay Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Radicaliaeth a Phrotest
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Bu sawl cenhedlaeth o deulu Crawshay, Cyfarthfa yn ddylanwadol yn hanes ardal Merthyr Tudful ers diwedd y 18fed ganrif. Y penteulu a ymsefydlodd yng Nghymru oedd Richard Crawshay (1739 – 1810). Daeth gyda’i deulu o Swydd Efrog i Gymru, ac roeddent o gefndir amaethyddol yn wreiddiol. I ddechrau, sefydlodd Crawshay fusnes gydag Anthony Bacon, perchennog Gwaith Haearn Plymouth ym Merthyr, cyn mynd ymlaen i sefydlu Gwaith Haearn Cyfarthfa fel gweithfeydd haearn byd enwog erbyn dechrau’r 19eg ganrif. Bu Richard Crawshay yn bwysig yn y gwaith o sefydlu Camlas Sir Forgannwg rhwng Merthyr a Chaerdydd diwedd y 18g.[1]

Bu ŵyr Richard, William Crawshay II, yn rheoli Gwaith Haearn Cyfarthfa adeg Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful.[2]

Prif aelodau'r teulu oedd:

Roedd nifer o ddiwydianwyr pwysig eraill â chysylltiadau â'r teulu yma. Roedd Richard Crawshay yn ewythr i Crawshay Bailey a'i frawd Joseph Bailey, ac roedd ei ferch Charlotte yn briod â Benjamin Hall (1778-1817).

Meistri haearn[golygu | golygu cod]

William Crawshay II (1788–1867)

Daeth Merthyr Tudful yn ganolfan hollbwysig i’r diwydiant haearn oherwydd presenoldeb y deunyddiau crai angenrheidiol yn yr ardal. Roedd ganddi’r haearn crai, cyflenwadau cyfleus o ddŵr, gweithlu gweithgar efo’r sgiliau

angenrheidiol ac oherwydd hynny denodd ddynion busnes oedd â’r arian i fuddsoddi yn y diwydiant newydd. Erbyn diwedd y 18g roedd pedwar o weithfeydd haearn mawr ym Merthyr:

  • Penydarren, o dan berchenogaeth teulu’r Homfrays
  • Plymouth, o dan berchenogaeth Anthony Bacon ac yna Richard Hill
  • Dowlais, o dan berchenogaeth Josiah John Guest
  • Cyfarthfa, o dan berchenogaeth teulu’r Crawshays

Cyfarthfa a dyfodd fwyaf, gan gynhyrchu canran fawr o haearn Prydain, ac yn wir haearn y byd. Daeth William Crawshay II yn un o’r dynion mwyaf cyfoethog a welwyd erioed ym Mhrydain – yn ôl gwerthoedd 2020 byddai ei gyfoeth wedi bod yn werth mwy na £5 biliwn. Roedd angen yr haearn ar gyfer y Chwyldro Diwydiannol, ac wrth i’r diwydiant ehangu roedd galw cynyddol am lo, ac o ganlyniad felly cafodd llawer o gloddfeydd eu datblygu gan y meistr haearn.[3] Roedd yn ddyn busnes oedd â llygad am fenter, gan ychwanegu Gwaith Haearn Hirwaun a gwaith tunplat ger Pontypridd at ei deyrnas haearn. Yn wir, roedd William Crawshay yn cael ei alw'n Frenin Haearn Merthyr.[1]

Tu mewn i Weithfeydd Haearn Cyfarthfa gyda'r nos, Penry Williams, (1825)

O blith meistri haearn yr oes honno, y ddau mwyaf dylanwadol oedd William Crawshay, perchennog Cyfarthfa, a Josiah John Guest, perchennog Dowlais. Gwnaeth y ddau gyfraniad at fywyd ym Merthyr. Adeiladodd teulu Guest lyfrgell, capeli ac ysgolion i’w gweithwyr, ond er eu bod yn byw yng nghyffiniau Merthyr, roedd y cyfoeth a arddangoswyd ganddynt yn amlwg mewn gwrthgyferbyniad â’r gweithwyr. Yn 1825 comisiynodd ac adeiladodd Crawshay gastell iddo’i hun yn edrych dros waith Cyfarthfa. Costiodd bron £30,000, ac roedd y ffordd roedd Castell Cyfarthfa yn tra-arglwyddiaethu dros y dref yn adlewyrchiad arall o’u rheolaeth dros bron bob agwedd ar fywyd ym Merthyr.[3]

Roedd William Crawshay a John Guest wedi dangos eu cefnogaeth i ymgyrch y Radicaliaid a oedd yn galw am ddiwygio’r Senedd ar ddechrau’r 19eg ganrif. Ond enynnodd William Crawshay llid y gweithwyr yn 1831 pan gyhoeddodd ei fod am dorri cyflogau gweithwyr haearn Cyfarthfa. Torrwyd cyflogau’r gweithwyr a gwaethygwyd y sefyllfa gan Crawshay pan ddiswyddodd 84 o bwdleriaid. Bu hyn yn ffactor pwysig a arweiniodd at Derfysg Merthyr ym Mehefin 1831.[3]

Pan fu farw William Crawshay II yn 1867 gadawodd wahanol rannau o’i ymerodraeth fusnes i’w blant. Bu ei ferch-yng-nghyfraith, Rose Mary Crawshay (1828-1907), a oedd yn briod â’i fab ieuengaf, Robert Thompson Crawshay, yn amlwg iawn gyda chyfleusterau addysg a mentrau er lles menywod.[1]

Daeth cysylltiad y teulu â Merthyr a’r gweithfeydd haearn i ben pan brynwyd y busnes gan gwmni Guest, Keen a Nettlefolds yn 1902.[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. tt. 191–192. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  2. 2.0 2.1 "CRAWSHAY family, of Cyfarthfa, Glamorganshire, industrialists | Dictionary of Welsh Biography". biography.wales. Cyrchwyd 2020-04-08.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Radicaliaeth a Phrotest" (PDF). CBAC.