Crawshay Bailey

Oddi ar Wicipedia
Crawshay Bailey
Ganwyd1789 Edit this on Wikidata
Wenham Magna Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd8 Tachwedd 1789 Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ionawr 1872 Edit this on Wikidata
Y Fenni Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethgwleidydd, diwydiannwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Roedd Crawshay Bailey (17899 Ionawr 1872) yn un o ddiwydianwyr mwyaf gwledydd Prydain yn yr 19g, yn feistr haearn, yn berchennog glofeydd ac yn gyfarwyddwr cwmnïau rheilffordd. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy o 1852 i 1868.[1]

Teulu[golygu | golygu cod]

Ganwyd Bailey yn Great Whenam, Suffolk yn fab i John Bailey, ffarmwr cefnog o Swydd Efrog, a Susannah (née Crawshay) ei wraig. Mae union ddyddiad ei eni yn ansicr, ond fei bedyddiwyd yn Eglwys y Plwyf, Great Wenham ar 8 Tachwedd 1789 [2]. Mab arall i'r teulu oedd y diwydiannwr ac AS Sir Frycheiniog Joseph Bailey. Roedd, Susannah, Mam Bailey yn chwaer i'r meistr haearn Richard Crawshay o Gastell Cyfarthfa Merthyr Tudful. Priododd Charlotte, chwaer Crawshay Bailey, a'r gwleidydd Benjamin Hall. Gweler hefyd Crawshay (teulu) qv am gysylltiadau eraill.

Ym 1820 priododd Crawshay Bailey ag Ann Moore bu iddynt un blentyn Jane Crawshay Bailey (1823-1900); roedd ei unig fab a'i etifedd, Crawshay Bailey ieu, a anwyd ym 1841 yn blentyn o groth Sarah Baker, morwyn ar ei aelwyd.[3] Ar 3 Medi 1850, yn Holstein yr Almaen priododd ag Ann, gweddw William ei frawd[4]; bu hi farw ar 1 Tachwedd 1865 [5]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn deuddeng mlwydd oed symudodd Bailey i Ferthyr er mwyn gweithio i'w ewyrth, yr oedd Joseph ei frawd eisoes yno. Ym 1810 bu farw Richard Crawshay a derbyniodd Bailey £1,000 o'i ewyllys, galluogodd y cymynroddion y derbyniasant i Crawshay a Joseph prynu gwaith haearn Nant-y-glo a oedd yn methu ar y pryd, ond llwyddodd rheolaeth y brodyr Bailey i dro'r gwaith yn un o fentrau pwysicaf Sir Fynwy.[6]. Wedi hyn, prynwyd gwaith haearn Cendl, (Beaufort) a gwaith haearn Aberaman gan y brodyr.[7]

Roedd Crawshay a Joseph Bailey yn ddidostur ac unplyg wrth gyflawni eu huchelgeisiau diwydiannol a chymdeithasol. Cafodd Crawshay, yn arbennig, ei ddisgrifio fel un llym a gormesol a'r anoddaf o feistriaid gwaith. Cododd tyrau caerog ar ei gartref yn Nant-y-glo ar gyfer ei amddiffyn yn ystod cyfnodau o aflonyddwch ymysg y gweithiwr. Roedd yn gwrthod gadael i'w gweithwyr ymuno ag undebau llafur a rhybuddiodd y sawl oedd yn ymgyrchu am ddiwygiad cymdeithasol y byddai'n mentro fy mywyd yn hytrach na cholli fy eiddo.[8]

Fe welodd Crawshay y fantais o fuddsoddi yn y diwydiant glo er mwyn osgoi gorfod prynu'r tanwydd oedd yn rhedeg ei gweithfeydd gan eraill, i'r diben hwn prynodd aceri lawer o dir amaethyddol yn ardaloedd Cwm Rhondda, Aberpennar ac Aberaman. I sicrhau ei fod yn prynu'r tir am y pris isaf cadwodd y rhan fwyaf o'i dir am gyfnod maith heb gloddio oddi tano, gan roi'r argraff ei fod yn adeiladu ystâd amaethyddol, trwy hyn fe lwyddodd i brynu'r tir am ei bris amaethyddol yn hytrach na'r pris llawer uwch y byddid yn disgwyl i'w dalu am dir cloddio am fwynau.

Bu'n flaenllaw yn y busnes adeiladu a buddsoddi mewn rheilffyrdd. Adeiladodd dramffordd o Rymni i Fasaleg a rheilffordd dyffryn Aberdâr, adeiladodd dramffordd o Cendl a Nant-y-glo i Lan-ffwyst i gysylltu â chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog. Yn 1852 bu'n hyrwyddo gwneuthur rheilffordd o Fforest y Ddena trwy Coleford, Trefynwy, a Brynbuga i Bont-y-pŵl, roedd ganddo fuddsoddiad mawr yng nghwmni Harbwr, Dociau a Rheilffordd Penarth[9]. Bu'n hyrwyddo a buddsoddi yn Rheilffordd Merthyr, Tredegar, a'r Fenni a bu ganddo nifer o gyfranddaliadau mewn cwmnïau rheilffordd mewn rhannau eraill o wledydd Prydain a gweddill y byd, yn arbennig yn yr UDA. Roedd yn ategu at werth ei fuddsoddiadau drwy sicrhau bod y trenau yn rhedeg ar gledrau a gynhyrchwyd yn ei gweithfeydd haearn; bu ganddo warws mawr yn nociau Lerpwl er mwyn allforio cledrau i'r Unol Daleithiau.[1][6]

Gyrfa gyhoeddus[golygu | golygu cod]

Safodd Bailey fel yr ymgeisydd Ceidwadol mewn isetholiad yn etholaeth Bwrdeistrefi Sir Fynwy ym 1852 a achoswyd drwy farwolaeth yr AS Rhyddfrydol Reginald James Blewitt, gan lwyddo i gipio'r sedd i'r achos Ceidwadol; cadwodd ei sedd yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau cyffredinol 1852, 1857, 1859, a 1865, ymddiswyddodd o'r senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1868, pan lwyddodd y Rhyddfrydwyr i gipio'r sedd yn ôl.

Roedd ei gyfraniad mwyaf yn y Senedd yn ymwneud ag hyrwyddo ei fuddiannau personol yn hytrach na fuddiannau ei etholwyr, bu'n hyrwyddwr brwd o filiau oedd yn caniatáu agor rheilffyrdd newydd tra’n wrthwynebus groch i ddeddfau oedd yn anghyfreithloni cyflogi menywod a phlant dan ddaear neu'n ceisio gorfodi gwell ddiogelwch mewn gweithfeydd haearn a phyllau glo.[8]

Gwasanaethodd fel Siryf Sir Frycheiniog ym 1837[10] ac fel Siryf Sir Fynwy ym 1850[11].

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Bailey yn ei gartref ger y Fenni yn 84 mlwydd oed[12] a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Eglwys Llan-ffwyst.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Y Bywgraffiadur arlein, BAILEY, CRAWSHAY (1789 - 1872), [1] adalwyd 15 Awst 2015
  2. England Births and Christenings, 1538-1975," , FamilySearch [2] :, Crawshay Bailey, 08 Nov 1789; citing, reference ; FHL microfilm 919,634. adalwyd 15 Awst 2015
  3. Cofrestr Bedydd Plwyf Aberystuth 1844, 19 Medi 1841, T49 Rhif 395 Crawshay, illegitimate son of Crawshay Bailey, Nantyglo, Ironmaster & Sarah Baker. Trwy wasanaeth archifau Cymru
  4. The Cardiff and Merthyr Guardian 14 Medi 1850 Family Notices [3] adalwyd 16 Awst 2015
  5. "FamilyNotices - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1865-11-04. Cyrchwyd 2015-08-16.
  6. 6.0 6.1 "DEATH OF MR CRAWSHAY BAILEY - County Observer and Monmouthshire Central Advertiser Abergavenny and Raglan Herald Usk and Pontypool Messenger and Chepstow Argus". James Henry Clark. 1872-01-13. Cyrchwyd 2015-08-15.
  7. "MR CRAWSHAY BAILEY - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1872-02-16. Cyrchwyd 2015-08-15.
  8. 8.0 8.1 Cynon Culture Crawshay Bailey 1789 - 1872 [4] Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Awst 2015
  9. "PENARTH HARBOUR DOCK AND RAILWAY - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1872-03-01. Cyrchwyd 2015-08-16.
  10. "SHERIFFS APPOINTED FOR THE YEAR 1837 - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1837-02-04. Cyrchwyd 2015-08-16.
  11. "Sheriffs for 1850 - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1850-02-09. Cyrchwyd 2015-08-16.
  12. "MARWOLAETH CRAWSHAY BAILEY - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1872-01-13. Cyrchwyd 2015-08-16.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Reginald James Blewitt
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy
18521868
Olynydd:
Syr John Ramsden
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
John Lloyd Vaughan Watkins
Uchel Siryf Sir Frycheiniog
1837
Olynydd:
James Duncan Thomson
Rhagflaenydd:
John Arthur Edward Herbert
Uchel Siryf Sir Fynwy
1851
Olynydd:
Ferdinand Hanbury-Williams