Joseph Bailey

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Joseph Bailey
Ganwyd 1783 Edit this on Wikidata
Bu farw 1858, 20 Tachwedd 1858 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd, metelegwr, person busnes Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Roedd Syr Joseph Bailey (21 Ionawr 178320 Tachwedd 1858) yn feistr gwaith haearn ac yn dir-feddiannwr a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Dinas Caerwrangon a Sir Frycheiniog.[1][2]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Bailey yn Great Whenam, Suffolk yn fab i John Bailey, ffarmwr cefnog o Swydd Efrog, a Susannah (née Crawshay) ei wraig.[3] Mab arall i'r teulu oedd y diwydiannwr ac AS Sir Fynwy Crawshay Bailey. Roedd, Susannah, Mam Bailey yn chwaer i'r meistr haearn Richard Crawshay o Gastell Cyfarthfa Merthyr Tudful. Priododd Charlotte, chwaer Joseph Bailey, a'r gwleidydd Benjamin Hall. Gweler hefyd Crawshay (teulu) qv am gysylltiadau eraill.

Bu Bailey yn briod ddwywaith. Priododd ei wraig gyntaf; Maria, merch Joseph Latham, Llangadog; ym 1810; bu iddynt pum mab a phedair merch [4]. Bu farw Maria ar 26 Mai 1827 [5]. Gwasanaethodd eu mab hynaf Joseph Bailey ieu (1812-1850) fel Aelod seneddol Sudbury o 1837 hyd 1841 a Swydd Henffordd o 1841 hyd 1850 [6].

Ym 1830 priododd Bailey ei ail wraig, Mary Anne, merch John Thomas Hooper, Wilton Castle Swydd Durham; bu iddynt un ferch. Bu farw Mary Anne ym 1874.[7]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn fachgen ifanc cerddodd o Swydd Efrog i Ferthyr i ymuno â busnes ei ewythr. Etifeddodd cyfran chwarter busnes Cyfarthfa ar farwolaeth Richard Crawshay gan werthu'r gyfran ym 1813 am £20,000 er mwyn prynu gwaith haearn Nant-y-glo a oedd yn methu ar y pryd, ond llwyddodd rheolaeth y brodyr Bailey i dro'r gwaith yn un o fentrau pwysicaf Sir Fynwy.[8]. Wedi hyn, prynwyd gwaith haearn Cendl, (Beaufort) a gwaith haearn Aberaman gan y brodyr.[9]

Plasdy Parc Glanusk

Ym 1826 Prynodd stadau yn Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed, Swydd Henffordd a Morgannwg, gan gynnwys stad Glanusk lle comisiynodd plasty newydd ysblennydd gan y pensaer Robert Lugar ac ymddeolodd i fywyd gŵr bonheddig, gan adael ei frawd i reoli'r gwaith haearn.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Bailey ei ethol fel Aelod Seneddol Ceidwadol etholaeth Caerwrangon ym 1835 gan gadw'r sedd hyd 1847, pan benderfynodd sefyll yn etholaeth Sir Frycheiniog [10] ar adeg ymddeoliad Thomas Wood o'r sedd. Etholwyd Bailey yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau cyffredinol 1847 a 1852 a 1857 gan dal y sedd hyd ei farwolaeth.

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Fynwy ym 1823; bu'n ynad heddwch dros siroedd Brycheiniog, Mynwy, Morgannwg, a Henffordd ac yn Ddirprwy Raglaw Sir Frycheiniog a Sir Fynwy.

Dyrchafwyd ef yn farwnig ym 1852.[11]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref, Parc Glanusk, yn 75 oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Penymarth, Crucywel.[12]. Gan fod ei fab hynaf wedi marw o'i flaen etifeddwyd y farwnigaeth gan ei ŵyr Joseph Russell Bailey

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur arlein, BAILEY, CRAWSHAY (1789 - 1872), [1] adalwyd 1 Rhag 2015
  2. Powys Local History Encyclopedia [2] adalwyd 1 Rhag 2015
  3. "THE LATE SIR JOSEPH BAILEY - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1858-11-27. Cyrchwyd 2015-11-30.
  4. "DEATH OF SIR JOSEPH BAILEY BART MP FOR THE COUNTY OF BRECKNOCK - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1858-11-26. Cyrchwyd 2015-11-30.
  5. "Family Notices - The Cambrian". T. Jenkins. 1827-06-02. Cyrchwyd 2015-11-30.
  6. "No title - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1850-09-28. Cyrchwyd 2015-11-30.
  7. "DEATH OF LADY BAILEY OF GLANUSK - The Western Mail". Abel Nadin. 1874-07-04. Cyrchwyd 2015-11-30.
  8. "DEATH OF MR CRAWSHAY BAILEY - County Observer and Monmouthshire Central Advertiser Abergavenny and Raglan Herald Usk and Pontypool Messenger and Chepstow Argus". James Henry Clark. 1872-01-13. Cyrchwyd 2015-08-15.
  9. "MR CRAWSHAY BAILEY - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1872-02-16. Cyrchwyd 2015-08-15.
  10. "BRECONSHIRE ELECTION - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1847-08-06. Cyrchwyd 2015-11-30.
  11. "SIR JOSEPH BAILEY BART MP - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1852-07-09. Cyrchwyd 2015-11-30.
  12. "BRECONSHIRE - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1858-12-03. Cyrchwyd 2015-11-30.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas wood
Aelod Seneddol Sir Frycheiniog
18471858
Olynydd:
Godfrey Charles Morgan