Basaleg

Oddi ar Wicipedia
Basaleg
Mathdosbarth, maestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.578°N 3.051°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJayne Bryant (Llafur)
AS/auRuth Jones (Llafur)
Map

Pentref hanesyddol sydd erbyn heddiw yn ardal ddinesig ar gyrion gorllewinol Casnewydd, de-ddwyrain Cymru, yw Basaleg (Saesneg: Bassaleg). Lleolir ar ffordd yr A468. Mae'n adnabyddus fel lleoliad llys Ifor Hael (Ifor ap Llywelyn), noddwr Dafydd ap Gwilym yn y 14g.

Cysylltir Basaleg â Santes Gwladys yn ogystal, un o ferched Brychan, brenin teyrnas Brycheiniog.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Ruth Jones (Llafur).[1][2]

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod]

Ar un adeg credid taw ffurf ar Maesaleg oedd yr enw, ond dangosodd Syr Ifor Williams taw gair sy'n deillio o'r Lladin basilica (eglwys) yw baseleg, gyda'r terfyniad -a wedi affeithio -i- yn -e- dros ddwy sillaf. Yn ôl Gwynedd O. Pierce, Baseleg yw'r ffurf "gywirach" ond dywed: "Amrywiad ar hwn yw Basaleg, a chystal peth ei gadw, pe bai ond er mwyn osgoi'r ynganiad erchyll (fel pe bai'n ddau air Saesneg) a roir i'r ffurf Baseleg gan y di-Gymraeg)." Mewn rhai plwyfi y mae'r eglwys wedi ei chysegru i sant arbennig am fod pobl wedi credu taw enw'r sant hwnnw a goffeir yn enw'r lle y saif yr eglwys ynddo. Am y rheswm hwn cysegrwyd yr eglwys ym Masaleg i'r Sant Basil ers dechrau'r 12g o leiaf, ond nid am fod ynddo unrhyw gysylltiad â neb o'r enw Basil, boed sant neu beidio.[3]

Llys Ifor Hael[golygu | golygu cod]

Trigai Ifor Hael ym mhlas Gwernyclepa ger Basaleg, tua milltir i'r de o'r pentref presennol (gorweddai ym Morgannwg yn y cyfnod hwnnw). Cadwai croeso cynnes ar ei aelwyd i'r beirdd. Ceir sawl cyfeiriad at lys Ifor Hael yng nghanu Dafydd ap Gwilym. Credir i'r bardd ganu iddo yn y cyfnod 1345-80. Mae un o'i gerddi yn gywydd mawl i lys Ifor ym Masaleg sy'n cynnwys y llinellau:

Mawr anrhydedd a'm deddyw;
Mi a gaf, o byddaf fyw,
Hely â chŵn, nid haelach iôr,
Ac yfed gydag Ifor,
A saethu rhygeirw sythynt,
A bwrw gweilch i wybr a gwynt,
A cherddau tafodau teg,
A solas ym Masaleg.[4]

Ymwelodd Evan Evans (Ieuan Fardd) â safle'r llys, yng nghwmni Iolo Morgannwg, a chyfansoddodd gyfres englynion 'I Lys Ifor Hael' sydd ymhlith y mwyaf adnabyddus o gerddi'r 18g.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen. Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1997), t. 12.
  4. Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym, cerdd 8.31-38.