Tŷ-du
| Math | cymuned, maestref |
|---|---|
| Poblogaeth | 13,898, 8,807, 10,158 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Casnewydd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 865 ha |
| Cyfesurynnau | 51.5906°N 3.0537°W |
| Cod SYG | W04001049 |
| Cod OS | ST271885 |
| Cod post | NP10 |
| Gwleidyddiaeth | |
| AS/au Cymru | Jayne Bryant (Llafur) |
| AS/au y DU | Ruth Jones (Llafur) |
![]() | |

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Casnewydd yw Tŷ-du (Saesneg: Rogerstone). Saif yng ngogledd-orllewin y sir, ac mae'n cynnwys rhan o Ddyffryn Ebwy. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 8,807.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ruth Jones (Llafur).[1][2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Erys ychydig o olion Castell Tŷ-du, castell mwnt a beili a adeiladwyd yn nechrau'r 12g gan Roger de Haia. Credir fod enw Saesneg y pentref yn dod o'i enw ef.
Ceir nifer sylweddol o ffatrïoedd yn yr ardal yma. Dymchwelwyd Pwerdy Tŷ-du yn 1991. Ar y ffin rhwng y gymuned yma a chymuned Betws mae 14 llifddor cangen Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy. Adeiladwyd y llifddorau hyn yn 1799, ac maent yn codi'r gamlas 51 metr (o ran uchder) ar bellter o 0.8 km.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Dinas
Casnewydd
Pentrefi
Allteuryn · Basaleg · Caerllion · Langstone · Llanfaches · Llanfihangel-y-fedw · Llansanffraid Gwynllŵg · Llan-wern · Pen-hŵ · Y Redwig · Trefesgob · Trefonnen · Tŷ-du
