Neidio i'r cynnwys

Langstone, Casnewydd

Oddi ar Wicipedia
Langstone
Mathpentref, cymuned, ward etholiadol Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,548 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.61531°N 2.88596°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000818 Edit this on Wikidata
Cod OSST386909 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJohn Griffiths (Llafur)
AS/au y DUJessica Morden (Llafur)
Map

Pentref, cymuned a ward etholiadol ym mwrdeisdref sirol Casnewydd yw Langstone. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,770.

Saif Langstone i'r dwyrain o ganol dinas Casnewydd, ar gyrion yr ardal adeiledig. Tyfodd y pentref o gwmpas y briffordd A48, yna yn y 1990au adeiladwyd nifer o stadau tai. Heblaw Lanstone ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi bychain Llanbeder, Llandevaud a Llanfarthin.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan John Griffiths (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Jessica Morden (Llafur).[2]

Ceir nifer o henebion yma, yn cynnwys gweddillion dau gastell mwnt a beili, ac olion gwersyll Rhufeinig. Ceir Chwarel Penhow yn y gymuned hefyd.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Langstone, Casnewydd (pob oed) (3,279)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Langstone, Casnewydd) (356)
  
11.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Langstone, Casnewydd) (2392)
  
72.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Langstone, Casnewydd) (328)
  
26.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]