Trefonnen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Trefonnen (Cyfeirnod OS: ST3483) (Saesneg: Nash). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 281.

Saif Trefonnen i'r de o ddinas Casnewydd, ar lan ddwyreiniol aber Afon Wysg. Ceir Goleudy Dwyrain Wysg a nifer o ffatrioedd yma. Arferai bywoliaeth plwyf Trefonnen fod yn eiddo i Goleg Eton, a dalodd am adeiladu'r eglwys.

Gerllaw mae Gwarchodfa Natur Gwlybtiroedd Casnewydd, a agorwyd ym mis Mawrth 2000.

Arferid defnyddio'r ffurf 'Tre'ronnen' yn Gymraeg, yn ogystal a'r ffurf 'Y Nais' - o'r Saesneg 'Nash' a ddaeth o'r Lladin Fraxino (1154-8).[1]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trefonnen (pob oed) (284)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trefonnen) (11)
  
4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trefonnen) (241)
  
84.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Trefonnen) (34)
  
30.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dictionary of the Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer, 2008.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013