Pen-hw
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 726 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6151°N 2.835°W |
Cod SYG | W04000826 |
Pentref, plwyf hanesyddol a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Pen-hw (Saesneg: Penhow). Saif ar ffin ddwyreiniol sir Casnewydd, tuag wyth milltir o ganol y ddinas. Roedd poblogaeth y gymuned yn 726 yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021.
Heblaw pentref bychan Pen-hw ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref mwy Parc Seymour. Castell Pen-hw yw ei hadeilad mwyaf adnabyddus. Fe'i hadeiladwyd gan Syr Roger de St Maur, un o'r marchogion a oedd yn gysylltiedig ag arglwyddiaeth Striguil a Chastell Cas-gwent. Mae cofnod ei fod ym Mhen-hw erbyn 1129. Yn ddiweddarach, newidiodd y teulu ei enw i Seymour.
Ar 19 Gorffennaf 2006, cofnodwyd tymheredd o 34.2°C (93.5°F) ym Mhen-hw, sef y tymheredd uchaf i'w gofnodi hyd hynny yng Nghymru. Ers hynny, mae tymheredd uwch wedi ei gofnodi mewn mannau eraill.
Mae Coetir Pen-hw yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Tarddiad yr enw
[golygu | golygu cod]Mae'n debyg fod ail elfen yr enw yn cynnwys yr Hen Saesneg hōh, sef ffurf cyflwr derbyniol neu ddadiol hō 'cefnen ymwthiol'. Ceir y cyfnod cyntaf o'r enw oddeutu 1130 yn y ffurf Penhou. Ceir y ffurf pen hw mewn rhestr Gymraeg o blwyfi Cymru o tua 1566.[1]
Yr iaith Gymraeg
[golygu | golygu cod]Yn ei gyfrol Wild Wales (sy'n disgrifio taith trwy Gymru yn 1854), mae George Borrow yn nodi iddo gwrdd â menyw o Ben-hw o'r enw Esther Williams, ychydig i'r dwyrain o Gasnewydd. Dywedodd Esther ei bod yn medru'r Gymraeg a bod hynny'n wir am bawb am o leiaf wyth milltir i'r dwyrain o Gasnewydd. Fodd bynnag, dywedodd merch arall wrth Borrow na allai hi siarad Cymraeg ac mai lleiafrif bychan o bobl yr ardal a oedd yn Gymry Cymraeg. Amcangyfrifai Borrow ei hun fod tua hanner y bobl y bu iddo eu cyfarfod yn y saith neu wyth milltir i'r dwyrain o Gasnewydd yn medru'r iaith.[2]
Mae Cyfrifiad 1891 yn nodi bod nifer fechan o siaradwyr yn y plwyf, ond nid oedd yr un ohonynt wedi eu geni yno.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-names of Wales. Llandysul: Gomer, 2007, ISBN 1-84323-901-9, t. 366.
- ↑ Borrow, George (1862). Wild Wales: Its People, Language and Scenery. London: John Murray. tt. 454–5.
Dinas
Casnewydd
Pentrefi
Allteuryn · Basaleg · Caerllion · Langstone · Llanfaches · Llanfihangel-y-fedw · Llansanffraid Gwynllŵg · Llan-wern · Pen-hŵ · Y Redwig · Trefesgob · Trefonnen · Tŷ-du