Iolo Morganwg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Iolo Morgannwg)
Iolo Morganwg
FfugenwIolo Morgannwg Edit this on Wikidata
Ganwyd10 Mawrth 1747 Edit this on Wikidata
Llancarfan Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 1826 Edit this on Wikidata
Trefflemin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, gwerthwr hen greiriau, ysgrifennwr, hynafiaethydd, ffermwr, counterfeiter Edit this on Wikidata
PlantTaliesin Williams, Margaret Williams Edit this on Wikidata

Roedd Edward Williams (10 Mawrth 174718 Rhagfyr 1826), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Iolo Morganwg, yn fardd a hynafiaethydd a aned ym mhentref bychan Pennon, plwyf Llancarfan, ym Morgannwg, de Cymru. Fel sylfaenydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, ef sy'n gyfrifol am wreiddiau prif seremonïau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Dim ond yn yr 20g y sylweddolwyd ei fod yn un o'r ffugwyr llenyddol mwyaf cynhyrchiol a llwyddiannus erioed. Nid oes llawer o dystiolaeth ar gael i ddweud ei bod wedi ffugio ei waith ar wyddor Y Coelbren.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Edward Williams ym 1747 ym mhentref Pennon ym mhlwyf Llancarfan ond symudodd ei rieni i fyw ym mhentref Trefflemin, rhai milltiroedd yn unig i ffwrdd, ar lan Afon Ddawan, ac yno y'i magwyd ac y bu'n byw am y rhan helaeth o'i oes. Gweithiodd trwy gydol ei oes fel saer maen, ym Morgannwg ac yn Lloegr, ond daeth yn enwog fel hynafiaethwr, bardd a radical. Yn Llundain roedd yn aelod ymroddgar o'r Gwyneddigion, cylch o lenorion gwladgarol a oedd yn cynnwys William Owen Pughe ac Owain Myvyr. Daeth i adnabod Robert Southey a dechreuodd alw ei hun yn "The Bard of Liberty". Fel rhai o lenorion mawr eraill yr oes roedd Iolo'n hoff iawn o opiwm ar ffurf lodnwm.

Tra yng ngharchar Caerdydd dros fethdaliad, ganed ei fab a fedyddiodd yn Daliesin. Roedd Taliesin yn ddisgybl i'w dad a golygodd ran o'i waith ar ôl ei farwolaeth.

Pan fu farw Iolo yn 78 oed ar 18 Rhagfyr 1826, bu galar ar ei ôl gan lawer o feirdd Cymru ac eraill a'i edmygai. Cyfansoddodd Walter Davies (Gwallter Mechain) 'gywydd-gofiant' iddo sy'n clodfori ei ddysg a'i ddawn ac sy'n cloi gyda'r llinellau hyn:

Tra bo ton yn afon Nedd
A Dawon i'r un duedd,
Taf a Chynon afonydd
Yn gyr[r]u'u dwfr i Gaer Dydd,
Bydd ym mhob glyn, bryn a bro
Miloedd yn sôn am Iolo.[1]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Iolo oedd un o olygyddion tair cyfrol y Myvyrian Archaiology (1801-1807).

Cyfansoddodd Iolo nifer o gerddi. Yn eu plith mae'r cywyddau a dadogodd ar feirdd o'r Oesoedd Canol, rhai ohonynt yn feirdd hanesyddol, fel Dafydd ap Gwilym, ac eraill yn greaduriaid o ben a phastwn Iolo ei hun. Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o'r cywyddau dan y teitl Poems Lyric and Pastoral ym 1794. Er i ddilysrwydd y cerddi hyn gael ei amau ac yna ei gwrthbrofi gan ysgolheigion yr 20g, maent yn cael eu cydnabod fel cerddi gwych ynddynt eu hunain erbyn heddiw. Cyfansoddodd nifer fawr o emynau ar gyfer yr Undodiaid Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1812. Ysgrifennodd nifer o gerddi rhydd swynol yn ogystal.

Wedi ei farwolaeth cyhoeddwyd Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain ym 1829 ac ym 1848 gwelodd ei gasgliad mawr o farddoniaeth a rhyddiaith hanesyddol, ffug a dilys, olau dydd yn y gyfrol yr Iolo Manuscripts (The Welsh Manuscripts Society, 1848). Yn ddiweddarach yn y 19g cyhoeddwyd rhai o'i ffugweithiau eraill, yn cynnwys Coelbren y Beirdd (1840), Dosparth Edeyrn Dafod Aur (The Welsh Manuscripts Society, 1856) a Barddas (The Welsh Manuscripts Society: 1862, 1874).

Mae'r rhan fwyaf o lawysgrifau a llyfrau Iolo yn cael eu diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ers 1916.

Dylanwad[golygu | golygu cod]

Yn ystod y can mlynedd ar ôl ei farwolaeth ym 1826, daeth enw Iolo Morganwg yn destun llosg yng Nghymru, wrth i ysgolheigion cyfoes ddatguddio faint o "ddarganfyddiadau" Iolo oedd, mewn gwirionedd, yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun. Ond erbyn heddiw, er bod pawb yn derbyn mai ffugio a wnaeth, mae defodau a seremonïau Iolo wedi ennill eu plwyf ym mywyd diwylliannol Cymru, ac mae Iolo ei hun wedi dod yn arwr i'r Cymry.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Argraffiad ffacsimili 1888 o'r Iolo Manuscripts (Isaac Foulkes, 1888).
Fersiwn 1998 - Astudiaeth fanwl o fywyd a gwaith - gan Ceri Lewis
Gweithiau Iolo (detholiad)
Astudiaethau
  • Cathryn A. Charnell-White, Bardic Circles[:] National, Regional and Personal Identity in the Bardic Vision of Iolo Morganwg (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2067-9
  • Mary-Ann Constantine, The Truth against the World[:] Iolo Morganwg and Romantic Forgery (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2062-4
  • Geraint H. Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius[:] The Many Faces of Iolo Morganwg (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2005). ISBN 978-0-7083-1971-0
  • Geraint H. Jenkins et al. (gol.), The Correspondence of Iolo Morganwg, mewn 3 cyfrol (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2131-7
  • Marion Löffler, The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg 1826-1926 (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2113-3
  • Prys Morgan, Iolo Morganwg (cyfres Writers of Wales, 1975)
  • Brinley Richards, Golwg Newydd ar Iolo Morgannwg (1979)
  • T.D. Thomas, Cofiant (1857)
  • Elijah Waring, Recollections and Anecdotes of Edward Williams (1850)
  • G.J. Williams, Iolo Morgannwg (Caerdydd, 1956)
Nofelau

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwallter Davies, 'Cywydd-gofiant Iolo Morganwg', D Silvan Evans (gol.), Gwaith Gwallter Mechain, cyfrol 1 (Caerfyrddin, 1868). Tud. 61.
  2. "Gareth Thomas: Cyfieithu Myfi, Iolo i'r Gymraeg / Author Gareth Thomas: Translating I, Iolo into Welsh". Parallelcymru. Cyrchwyd 18 Medi 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: