The Myvyrian Archaiology of Wales

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

The Myvyrian Archaiology of Wales (3 cyfrol, 1801 - 1807) yw'r teitl ar gasgliad o destunau Cymraeg Canol a olygwyd gan Owain Myfyr gyda chymorth a chyfraniadau gan Iolo Morganwg a William Owen Pughe. Enwyd y gyfrol ar ôl Owain Myfyr, yn erbyn ei ewyllys, am ei fod mor hael yn achos y gwaith hwn ac hefyd fel noddwr llenorion ac ysgolheigion Cymraeg yn gyffredinol. Cafodd ei gyhoeddi ar ran Gymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain. Ei enw poblogaidd oedd 'Y Myfyrian'.

Hanes a chynnwys[golygu]

Mae'r ddwy gyfrol gyntaf yn gerrig milltir pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Yn y gyfrol gyntaf ceir detholiad o waith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd. Yn yr ail ceir detholiad da o destunau rhyddiaith Cymraeg Canol yn cynnwys Trioedd Ynys Prydain a thrioedd eraill, Bucheddau'r Saint a'r brutiau. Yn anffodus mae cynnwys y drydedd gyfrol yn ffrwyth dychymyg Iolo Morganwg ei hun. Y bwlch amlwg yn y casgliad yw'r chwedlau a'r Rhamantau. Y bwriad oedd eu cyhoeddi fel pedwaredd gyfrol ond redodd arian Myfyr allan.

Er bod nifer o walliau yn y testunau yn ôl safonau ysgolheictod heddiw, gwnaeth Myfyr a Pughe ymdrech lew i gasglu detholiad cynrychiolol o lenyddiaeth gynnar Cymru. Eu ffynonellau oedd llawysgrifau gwerthfawr yr hynafiaethydd Paul Panton (Plas Gwyn, Ynys Môn) a Thomas Jones, Aelod Seneddol Sir Aberteifi.

Cymhelliad y Gwyneddigion wrth gyhoeddi'r Myvyrian oedd ceisio dangos cyfoeth llenyddiaeth Cymru i'r byd, yn ogystal â hybu astudiaethau o lenyddiaeth Gymraeg yng Nghymru ei hun. Dyna pam y dewiswyd teitl a rhagymadrodd Saesneg. Roedd Cymry diwylliedig fel Owain Myfyr yn ymwydodol iawn o ddylanwad y mudiadau hynafiaethol yn Lloegr ac ar gyfandir Ewrop - gwaith pobl fel Thomas Percy, golygydd Reliques of Ancient English Poetry (1765), er enghraifft - a cheisiant sicrhau i lenyddiaeth Gymraeg ei lle ar yr un llwyfan.

Llyfryddiaeth[golygu]

Testun[golygu]

Cafwyd dau argraffiad o'r Myvyrian:

  • The Myvyrian Archaiology of Wales: Collected out of Ancient Manuscripts, 3 cyfrol (cyfrol 1 a 2: Llundain, 1801, cyfrol 3: Llundain, 1807)
  • The Myvyrian Archaiology of Wales... (Thomas Gee, Dinbych, 1870). Argraffiad un gyfrol sy'n rhedeg i dros 1500 tudalen.

Darllen pellach[golygu]

  • Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Abertawe, 1981). Da am y cefndir.

Dolenni allanol[golygu]