Owen Jones (Owain Myfyr)

Oddi ar Wicipedia
Owen Jones
Portread o Owen Jones (Owain Myfyr).
Ganwyd3 Medi 1741 Edit this on Wikidata
Llanfihangel Glyn Myfyr Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1814 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhynafiaethydd, blingwr Edit this on Wikidata

Un o ffigyrau amlycaf bywyd llenyddol Cymru diwedd y 18g oedd Owen Jones, enw barddol Owain ap Huw ac yn ddiweddarach Owain Myfyr (3 Medi 1741 - 26 Medi 1814). Er nad yn llenor ei hun treuliodd ran helaeth ei fywyd i noddi llenyddiaeth Gymraeg.[1]

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Llanfihangel Glyn Myfyr yn Sir Ddinbych (Sir Conwy heddiw), ac aeth i ddinas Llundain fel prentis crwynwr pan yn ieuanc. Erbyn iddo gyrraedd deugain oed roedd yn berchen y busnes, a daeth yn gyfoethog.

Daeth i gysylltiad a Richard Morris, un o Forysiaid Môn a Chymry eraill yn Llundain, a datblygodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg. Ymunodd ag Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac roedd ganddo ran amlwg mewn sefydlu Cymdeithas y Gwyneddigion yn 1770. Bu'n llywydd y gymdeithas honno nifer o wethiau.

Dechreuodd y Gwyneddigion gyhoeddi cynnwys hen lawysgrifau Cymraeg, ac yn 1789 roedd Owen Jones yn un o olygyddion cyfrol o waith Dafydd ap Gwilym. Yn 1801, cyhoeddwyd The Myvyrian Archaiology of Wales mewn dwy gyfrol a olygwyd gan Owen Jones gyda chymorth a chyfraniadau gan Iolo Morganwg a William Owen Pughe. Enwyd y llyfr ar ôl Owain Myfyr, yn erbyn ei ewyllys, gan mai ef oedd wedi talu llawer o gost eu cyhoeddi, rhai miloedd o bunnau. Mae'r ddwy gyfrol yma yn gerrig milltir pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Yn y gyfrol gyntaf ceir detholiad o waith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd. Yn yr ail ceir detholiad da o destunau rhyddiaith Cymraeg Canol yn cynnwys Trioedd Ynys Prydain a thrioedd eraill, Bucheddau'r Saint a'r brutiau.

Cafodd Owen Jones golledion yn ei fusnes a ohiriodd ddyddiad cyhoeddi'r drydedd gyfrol am gyfnod, ond ymddangosodd yn 1807. Yn anffodus mae cynnwys y drydedd gyfrol yn ffrwyth dychymyg Iolo Morganwg ei hun. Y bwlch amlwg yn y casgliad yw'r chwedlau a'r Rhamantau. Y bwriad oedd eu cyhoeddi fel pedwaredd gyfrol ond redodd arian Myfyr allan, yn enwedig gan ei fod wedi priodi a chanddo erbyn hyn deulu ieuanc. Daeth ei fab, Owen Jones, yn amlwg fel pensaer ac awdur.

Oriel luniau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Arlein; adalwyd 15 Tachwedd 2013
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: