Taliesin Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Taliesin Williams
Ganwyd9 Gorffennaf 1787, 7 Gorffennaf 1787 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd16 Medi 1787 Edit this on Wikidata
Bu farw16 Chwefror 1847 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Man preswylMerthyr Tudful Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, llyfrwerthwr, ysgolfeistr, saer maen Edit this on Wikidata
TadIolo Morganwg Edit this on Wikidata

Bardd a golygydd Cymreig oedd Taliesin Williams neu Taliesin ab Iolo (7 neu 9 Chwefror 178716 Chwefror 1847). Roedd yn fab i Iolo Morganwg, y llenor a'r hynafiaethydd. Cafodd ei enwi ar ôl y bardd cynnar, Taliesin.

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl traddodiad, ganed Taliesin yng ngharchardy Caerdydd lle bu ei dad yn garcharor am gyfnod oherwydd ei fod yn fethdalwr. Ar ôl cael addysg elfennol yn y Bont-faen, Morgannwg, gweithiodd gyda'i dad fel saer maen yn y sir honno. Mae'n debyg iddo gael ei hyfforddi gan ei dad fel bardd. Trodd yn ysgolfeistr a threuliodd 21 mlynedd olaf ei oes yn ysgolfeistr ym Merthyr Tudful. Un o'i ddisgyblion oedd yr arlunydd Penry Williams (1800-1885), a chredir y cafodd ddylanwad arno i ddewis gyrfa fel artist.

Gweithgareddau llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu gan Daliesin ran flaenllaw yng ngweithgareddau llenyddol a diwylliannol De Cymru yn hanner cyntaf y 19g. Golygodd yr Iolo Manuscripts, sy'n cynnwys rhai o ffugiadau hynafiaethol enwocaf ei dad, ar ran y Welsh Manuscripts Society (cyhoeddwyd 1848). Ymddengys na rannodd ei dad ei gyfrinach ag ef a chredai Taliesin yn ddiffuant fod y ffugiadau hynny a llawer o rai eraill gan Iolo yn destunau Cymraeg Canol dilys. Trwy gydol ei oes hyrwyddai syniadau Iolo am hynafiaeth Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, Coelbren y Beirdd, a ffugiadau eraill, trwy ysgrifennu traethodau ac erthyglau ac annerch cymdeithasau diwylliannol Cymreig.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfansoddodd sawl darn o farddoniaeth yn y Gymraeg, yn enwedig ar gyfer eisteddfodau: enillodd y Gadair yn Eisteddfod Caerdydd 1834 am ei awdl 'Y Derwyddon' sy'n drwm dan ddysgeidiaeth ramantaidd (a ffug) ei dad am y Derwyddon Cymreig a'u traddodiadau. Ysgrifennodd gerddi Saesneg hefyd, e.e. Cardiff Castle (1827) a The Doom of Colyn Dolphyn (1837); roeddent yn gerddi pur boblogaidd yn eu cyfnod.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.