Barddas
Gwedd
| Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig |
|---|---|
| Awdur | Iolo Morganwg, John Williams (Ab Ithel) |
| Cyhoeddwr | The Welsh Manuscripts Society |
| Gwlad | y Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1862 |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |
| ISBN-13 | 978-1-60506-171-9 |
- Gweler hefyd: Barddas (cylchgrawn)

Casgliad o ysgrifau gan Iolo Morganwg yw Barddas (The Welsh Manuscripts Society: dwy gyfrol, 1862 a 1874). Honnai'r awdur ei fod yn gasgliad o destunau hynafol beirdd ar athroniaeth dderwyddol y Cymry, ac er y gwyddom bellach mai crebwyll Iolo Morganwg yw'r Barddas, mae'n dal yn destun craidd pwysig i'r symudiad neo-Derwyddol.
Ystyr y gair 'barddas' yw "barddoniaeth", neu "ddysg a chelfyddyd y beirdd, cyfundrefn y beirdd." Ceir yr enghraifft gynharaf sydd ar glawr mewn cerdd gan Edmwnd Prys (1543–1623):
Byr ddeunydd mewn barddoniaeth,
Barddas wir heb urddas aeth.