John Williams (Ab Ithel)

Oddi ar Wicipedia
John Williams
Ganwyd7 Ebrill 1811 Edit this on Wikidata
Llangynhafal Edit this on Wikidata
Bu farw27 Awst 1862 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwerthwr hen greiriau, offeiriad Edit this on Wikidata

Hynafiaethydd a chlerigwr Cymreig oedd John Williams (Ab Ithel) (7 Ebrill 181127 Awst 1862).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Llangynhafal, Sir Ddinbych, yn fab i Roger ac Elizabeth Williams. Cymerodd ei enw barddol "Ab Ithel" o enw ei daid, William Bethell. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a daeth yn gurad yn Llanfor, ac yno y priododd Elizabeth Lloyd Williams. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Eglwys Loegr yn Anymddibynol ar Eglwys Rhufain yn 1836. Yn 1843 daeth yn gurad parhaol Nercwys, ac yn 1849 daeth yn rheithor Llanymawddwy. Yn 1846 dechreuodd gyhoeddi Archaeologia Cambrensis gyda H. Longueville Jones, a bu yn ei olygu o 1846 hyd 1853, ac roedd ganddo ran amlwg yn sefydlu Cymdeithas Hynafiaethau Cymru.

Daeth Ab Ithel yn amlwg iawn ym maes ysgolheictod Gymreig yn ei ddydd, ac wedi marwolaeth Aneurin Owen penodwyd ef gan The Welsh Manuscripts Society i gwblhau'r cynllun o gyhoeddi yr Annales Cambriae a Brut y Tywysogion, a ymddangosodd yn 1860. Roedd yn drwm dan ddylanwad syniadau Iolo Morgannwg, ac nid ystyrir ei waith o fawr werth gan ysgolheigion diweddar. Roedd yn un o brif drefnwyr Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858, pan wrthodwyd y wobr i Thomas Stephens am draethawd ar chwedl Madog am nad oedd yn derbyn gwirionedd yr hanes.

Ym Mawrth 1862 symudwyd ef i blwyf Llanenddwyn a Llanddwywe (Dyffryn Ardudwy), ond bu farw rai misoedd wedyn a chladdwyd ef yn Llanddwywe.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Gwaith gwreiddiol
  • Eglwys Loegr yn Anymddibynol ar Eglwys Rhufain (1836).
  • Ecclesiastical Antiquities of the Cymry (1844)
Golygiadau
  • Dosparth Edeyrn Davod Aur (1856)
  • Annales Cambriae and Brut y Tywysogion (1860)
  • Meddygon Myddfai (1861)
  • Barddas (1862)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]