Eisteddfod Fawr Llangollen
Gwedd
| Enghraifft o: | eisteddfod |
|---|---|
| Dyddiad | Medi 1858 |
| Lleoliad | Llangollen |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
Cynhaliwyd Eisteddfod Fawr Llangollen yn mis Medi 1858 yn Llangollen, Sir Ddinbych.
Bu cryn dipyn o ddadlau ynglŷn a'r eisteddfod hon. John Williams (Ab Ithel) oedd un o'r prif drefnwyr, ac enillodd ef a'i deulu nifer o wobrau. Ni thalwyd y wobr i Thomas Stephens am draethawd ar stori Madog, am nad oedd Stephens yn derbyn gwirionedd y chwedl.
Enillodd Ceiriog y gystadleuaeth rieingerdd, gyda Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân, cerdd a ddaeth yn boblogaidd iawn ar unwaith.