Myfanwy Fychan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Merch o dras uchelwrol a ddaeth yn un o Gymry mwyaf adnabyddus yr Oesoedd Canol diolch i'r cerddi a ganwyd iddi oedd Myfanwy Fychan (fl. ganol y 14g). Mae'n debygol ei bod i'w huniaethu â Myfanwy ferch Iorwerth Ddu ab Ednyfed Gam o'r Pengwern ger Llangollen, a briododd â Goronwy ap Tudur Fychan o deulu enwog Tuduriaid Penmynydd, Môn, un o hynafiaid Harri Tudur.

Ei hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Un gerdd yn unig gan y bardd Hywel ab Einion Lygliw sydd wedi goroesi, ond mae ymhlith yr enwocaf o waith y Cywyddwyr, sef ei awdl foliant i Fyfanwy Fychan "o Gastell Ddinas Brân", sydd fel

Lliw eiry cynnar pen Aran,
Lloer bryd, lwys fryd o lys Frân.[1]

Roedd Castell Dinas Brân yn adfail yng nghyfnod y bardd ac ymddengys mai Myfanwy ferch Iorwerth Ddu o'r Pengwern oedd y ferch y mae Hywel ab Einion Lygliw yn anfon march yn llatai iddi. Priododd Myfanwy â Goronwy Fychan ap Tudur a cheir sawl cerdd gan y beirdd iddi hi a'i gŵr. Mae'r ffaith fod y gerdd yn dwyn y teitl 'Moliant Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân' yn awgrymu fod y teitl hwnnw yn y llawysgrifau yn ddiweddarach na'r gerdd ei hun ac i'r gerdd felly gael ei gyfansoddi cyn i Fyfanwy briodi, ac eto i gyd mae'n bosibl hefyd fod y gerdd yn perthyn i draddodiad yn yr amour courtois o ganu i wragedd priod. Mae beddfaen alabaster cerfiedig Goronwy Fychan, a fu farw yn 1382, gyda delwau ef a'i wraig Myfanwy, i'w weld yn eglwys plwyf Penmynydd, sydd wedi ei chysegru i Sant Gredifael.

Rhamantiaeth y 19eg ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

Argraffwyd testun y gerdd i Fyfanwy Fychan gan Hywel ab Einion Lygliw yn y Myvyrian Archaiology of Wales (1801) a daeth â hi i amlygrwydd cenedlaethol. Ceir cyfieithiad Saesneg o'r gerdd gan Thomas Pennant yn ei Tours in Wales hefyd, a sicrhaodd ei fod yn destun adnabyddus i hynafiaethwyr yng Nghymru a'r tu hwnt.

Dyma'r ysbrydoliaeth i'r gerdd boblogaidd 'Myfanwy Fychan' gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog). Cyfansoddwyd yr awdl honno ar gyfer cystadleuaeth Eisteddfod Llangollen yn 1858. Cafodd ei chyhoeddi am y tro cyntaf yn y gyfrol Oriau'r Hwyr (1860). Cerdd nodweddiadol Fictorianaidd ydyw, sy'n disgrifio yn delynegol iawn cariadwriaeth Myfanwy Fychan a Hywel ab Einion. Dyrchefir rhinweddau'r forwyn yn y gerdd, a hynny mewn ymateb bwriadol i'r sen ar foes y Cymry a geir yn yr adroddiad seneddol a adwaenir fel Brad y Llyfrau Gleision. Roedd yn gerdd hynod boblogaidd a gafodd ddylanwad mawr ar ganu telynegol Cymraeg gweddill y 19g. Gosodwyd alaw i'r geiriau gan Joseph Parry a chyhoeddwyd y gân dan yr enw Myfanwy. Daeth yn un o'r caneuon Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • W. J. Gruffydd, Ceiriog (1939)
  • Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill (Aberystwyth, 2000).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill, cerdd 1.35-6.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]