Lodnwm

Oddi ar Wicipedia
Hen botel o lodnwm.

Tinctur opiwm yw lodnwm[1] a ddefnyddid yn hanesyddol fel poenliniarydd a thawelydd. Fe'i wneir o fwydion crai opiwm, ac mae'n cynnwys 1 y cant morffin.[2] Cafodd y toddiant hydroalcoholig hwn ei gymysgu'n gyntaf yn Ewrop gan Paracelsus yn yr 16g. Ar y pryd, na wyddys taw cyffur caethiwus yw lodnwm. Defnyddid hyd ddiwedd y 19g i drin nifer o afiechydon. Roedd nifer o lenorion, cyfansoddwyr ac arlunwyr enwog yn cymryd lodnwm, gan gynnwys Iolo Morganwg,[3] Samuel Taylor Coleridge, Edgar Allan Poe, Modest Mussorgsky, a Thomas De Quincey.[4]

Defnydd hanesyddol yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Cofnododd William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell yn ei ddyddiadur fel hyn tra roedd yn aros yn Nulyn ar 25 Hydref 1735:

The wind S.W.; rained almost all day. Paid 6/- for a pair of shoes ; paid 4d. for 1/4 dr. of opium; paid at my lodging house 4/6 for Punch.

Meddai Twm Elias[5]: “roedd ‘na ddefnyddiau meddygol pwysig iawn i opiwm (sug y pabi gwyn) ac fe’i ceid fel soled wedi ei sychu o sug y ffrwyth. Neu gellid ei doddi mewn alcohol a dŵr (cyfartaledd 1 : 1 : 1) i greu Laudanum, oedd yn fwy cyfleus ac yn gweithio’n gynt. Fel hypnotig a thawelydd (‘sedative’) roedd yn ddefnyddiol iawn i leddfu poen a thawelu rhywun oedd wedi gor- gynhyrfu. Roedd ei effeithiau astringent yn dda ar gyfer y dolur rhydd a dysentri a’i effeithiau expectorant, diafforetig, tawelyddol a gwrth-spasmodig yn ei wneud yn dda ar gyfer rhai mathau o beswch. Mae ‘na dros 20 o wahanol alcaloidiau mewn opiwm, a’r ddau fwyaf cyfarwydd erbyn heddiw ydi Codeine a Morphine. Mae’n cael ei dyfu dan drwydded mewn sawl gwlad i gyflenwi’r cyffuriau meddygol hyn ond mae ‘na gryn dyfu arno fo hefyd i gyflenwi’r farchnad gyffuriau anghyfreithlon! ‘Swn i’n feddwl mai i bwrpas meddygol yr oedd Bulkeley yn ei brynu...?

Datgelwyd yn ddiweddar bod tad yr actor enwog Kenneth Williams yn gaeth i heroine ar ffurf y moddion cyffredin Gee’s Linctus[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  lodnwm. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Chwefror 2016.
  2. A Dictionary of Nursing (2008), laudanum.
  3. Ceri W. Lewis, Iolo Morganwg (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 1998), t. 55.
  4. The Columbia Encyclopedia, 6ed argraffiad (2015), laudanum.
  5. Twm Elias (cys. personol DB
  6. sylw personol
Eginyn erthygl sydd uchod am feddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.