William Crawshay I
Gwedd
| William Crawshay I | |
|---|---|
| Ganwyd | 1764 |
| Bu farw | 11 Awst 1834 Stoke Newington |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | metelegwr |
| Tad | Richard Crawshay |
| Plant | William Crawshay II |
Diwydiannwr a pherchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful oedd William Crawshay (1764 – 11 Awst 1834), a adwaenir fel William Crawshay I i'w wahaniaethu oddi wrth ei fab, William Crawshay II.
Roedd yn fab i Richard Crawshay, oedd wedi datblygu busnes llewyrchus, yn cynnwys gweithfeydd haearn ymysg eraill. Nid oedd gan William Crawshay yr hynaf lawr o ddiddordeb yng ngweithfeydd haearn y teulu, a pharhaodd i fyw yn Llundain hyd yn oed ar ôl iddo gymeryd cyfrifoldeb am y busnes, yn dilyn marwolaeth ei frawd hynaf. Roedd yn well ganddo ganolbwyntio ar agweddau eraill ar fusnes y teulu, yn cynnwys masnachu ag India.
Ar farwolaeth Richard Crawshay yn 1810, daeth William Crawshay II yn rheolwr gweithfeydd Cyfarthfa a Hirwaun.