John Josiah Guest

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Josiah Guest
Portrait of Sir Josiah John Guest (4672282).jpg
Ganwyd 2 Chwefror 1785 Edit this on Wikidata
Dowlais Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Tachwedd 1852 Edit this on Wikidata (67 oed)
Dowlais Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
  • Bridgnorth Endowed School Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Priod Charlotte Guest Edit this on Wikidata
Plant Montague Guest, Ivor Bertie Guest, Arthur Guest Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Roedd Syr John Josiah Guest, y Barwnig 1af (2 Chwefror 178526 Tachwedd 1852) (weithau Josiah John Guest) yn beirianydd, yn fentrwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaethau Honiton, Dyfnaint a Merthyr Tudful.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Guest yn Nowlais yn fab hynaf i Thomas Guest, partner yng Ngwaith Haearn Dowlais a Jemima Revel Philips ei wraig.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Bridgenorth, Swydd Amwythig ac yn Ysgol Trefynwy.

Bu'n briod ddwywaith. Ym 1817 fe briododd Maria Rankin, bu hi farw naw mis yn niweddarach. Ym 1833 Priododd y Ledi Charlotte Elizabeth Bertie, merch Albermale Bertie, 9fed Iarll Lindsey, bu iddynt deg o blant:[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar farwolaeth ei dad ym 1807 etifeddodd John ran ei dad yng Ngwaith Haearn Dowlais gan ddod yn berchennog mwyafrifol y gwaith ym 1815 a'i llwyr berchennog ym 1849. Llwyddodd i gynyddu allbwn y cwmni yn sylweddol o 5 mil tunnell o haearn ym 1806 i 75 mil tunnell ym 1849. O ganol y 1830au i ddiwedd y 1840au roedd gwaith Dowlais ar ei hanterth. Erbyn 1845 roedd yno deunaw ffwrnais (y nifer cyfartalog ar gyfer gwaith haearn oedd tri), gyda phob un yn cynhyrchu dros gant o dunelli bob wythnos. Roedd y safle yn cwmpasu 40 erw a'r gweithlu yn rhifo mwy na saith mil. Cafodd ail waith, Gwaith Ifor (wedi ei enwi ar ôl ei fab hynaf ei godi ym 1839 ar gost o £ 47,000. Gan fod y rhwydwaith rheilffyrdd yn ehangu trwy'r byd llwyddodd y cwmni i ennill contractau yng ngwledydd Prydain a thu hwnt, yn arbennig yn yr Almaen, Rwsia, ac Unol Daleithiau America. Ym 1844, er enghraifft, enillwyd archeb ddigynsail am 50,000 o dunelli o gledrau i Rwsia.

Roedd Guest yn flaengar yn ei ddefnydd o'r darganfyddiadau diweddaraf ym meysydd cemeg a pheirianwaith ac yn ymgysylltu â ffigyrau allweddol mewn datblygiad gwyddonol a thechnolegol. Etholwyd ef yn gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearegol yn 1818 a'r Gymdeithas Frenhinol ym 1830. Ym 1834 daeth yn aelod cyswllt o Sefydliad y Peirianwyr Sifil.

Roedd ei ddiddordebau busnes yn cynnwys pyllau glo yn Fforest y Ddena ac ef oedd cadeirydd cyntaf Cwmni Rheilffordd Cwm Taf. Roedd hefyd yn dirfeddiannwr gydag ystadau yn Nhrenewydd yn Notais a Canford Manor ger Wimborne, Dorset[5]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Guest yn Aelod Seneddol Annibynnol dros etholaeth Honington, Dyfnaint ym 1826 a'r addewid o ymddwyn fel cyfaill i ryddid crefyddol a sifil[6] gan gadw at ei addewid; bu'n gwrthwynebu, caethwasiaeth, cyfreithiau gwrth Catholigion a chyfreithiau diffyndollau a oedd yn codi prisiau nwyddau i'r tlodion. Roedd yn frwd o blaid diwygio'r Senedd ac fe fu yn allweddol yn sicrhau bod etholaeth Sir Forgannwg yn cael aelod ychwanegol a bod Bwrdeistref Merthyr Tudful a Dosbarth Abertawe yn cael cynrychiolaeth Seneddol. Doedd ei frwdfrydedd dros ddiwygio ddim yn boblogaidd yn etholaeth Honiton, sedd dau aelod yn cynrychioli un dref marchnad; yn Etholiad Cyffredinol 1831 syrthiodd o frig y pôl i'r trydydd safle gan golli ei sedd.

Ym 1832 safodd fel Chwig / Rhyddfrydwr yn etholaeth newydd Merthyr gan gael ei ddychwelyd yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 1832 ac 1835. Penderfynodd sefyll dros etholaeth Sir Forgannwg yn etholiad 1837, ond heb lwyddiant. Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf doedd etholiadau ddim yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ym mhob un etholaeth, ond ar ddiwrnod a benodwyd gan y swyddog canlyniadau ar unrhyw ddydd yn ystod y cyfnod etholiadol; wedi methu cael ei ethol yn y Sir, safodd eto yn etholiad 1837 yn etholaeth Merthyr Tudful fel ymgeisydd Rhyddfrydol, er bod y Rhyddfrydwyr lleol eisoes wedi dewis ymgeisydd, John Bruce. Llwyddodd Guest i ddod i frig y pôl a chadwodd y sedd yn ddiwrthwynebiad hyd ei farwolaeth.[7]

Etholiad cyffredinol 1837: Sir Forgannwg
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Edwin Wyndham-Quin 2,009 37.3
Rhyddfrydol Christopher Rice Mansel Talbot 1,797 33.3
Rhyddfrydol John Josiah Guest 1,590 29.4
Mwyafrif 215
Mwyafrif 204
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1837: Merthyr Tudful Etholfraint 582
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol John Josiah Guest 309 69.6
Rhyddfrydol John Bruce 135 30.4
Mwyafrif 174
Y nifer a bleidleisiodd 76.3
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Gwasanaethodd fel Siryf Sir Forgannwg ym 1818 a chafodd ei godi'n farwnig ym 1838

Gwrthryfel y gweithwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful, roedd Guest, yn amlwg, ar ochr y meistri a chyfraith a threfn; ond mae'n debyg ei fod yn ychydig mwy cymedrol na rhai o'i gyd feistri megis William Crawshay II a oedd am ddangos y gwrthwynebiad mwyaf pendant i'r gweithredoedd anghyfreithiol a Crawshay Bailey a oedd yn addo mentro fy mywyd yn hytrach na cholli fy eiddo ac yn addo defnyddio holl rym y wlad ar y gwrthryfelwyr pe na baent yn ildio a dychwelyd i'w llefydd gwaith; roedd Guest yn argymell eu bod yn dychwelyd i'w cartrefi ac yn ddwys ystyried ffurf amgenach o fynegi eu hanghydfod. Yn ôl rhai adroddiadau o'r wasg ar ddiwrnod olaf y terfysg fe arbedwyd cyflafan pan safodd Guest rhwng y milwyr a'r protestwyr gan sicrhau nad oedd modd i'r milwyr saethu heb ei ladd ef a gan sicrhau amddiffyn hawliau'r gweithwyr pe baent yn ymwasgaru.[8]

Mae'n debyg mae creu arwr allan o aelod o'r sefydliad yw'r fath adroddiadau, gwrth arwr sefydliadol i Dic Penderyn, a bod y wasg Ryddfrydol am sicrhau bod y sefydliad ddim yn gweld Rhyddfrydiaeth fel gormod o fygythiad i'r sefydliad; ond yn ddi-os fe ddefnyddiodd Guest yr anghydfod ym Merthyr fel dadl dros sicrhau sedd seneddol i Ferthyr[9]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Syr John yn ddioddef o anhwylder yr arennau am rai blynyddoedd ac wedi ymneilltuo i'w ystâd yn Dorset fel lle iachach i fyw na Dowlais; ond o deimlo'r diwedd yn dod penderfynodd ei fod am farw yn ei dref enedigol a symudodd i'w hen gartref, Tŷ Dowlais, i wario ei ddyddiau olaf, lle fu farw ar 26 Tachwedd 1852[10]. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Ioan, Dowlais[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur Guest (Teulu) [1] adalwyd 1 Medi 2015
  2. "SOME BIOGRAPHICAL FACTS OF THE GUEST FAMILY - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1879-08-09. Cyrchwyd 2015-09-01.
  3. "OBITUARY - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1904-11-12. Cyrchwyd 2015-09-01.
  4. "Family Notices - The Merthyr Telegraph and General Advertiser for the Iron Districts of South Wales". Peter Williams. 1862-05-31. Cyrchwyd 2015-09-01.
  5. “Guest, Sir (Josiah) John, first baronet (1785–1852),” Angela V. John yn Oxford Dictionary of National Biography, ed. H. C. G. Matthew and Brian Harrison (Oxford: OUP, 2004); online ed., ed. Lawrence Goldman, May 2008, [2] adalwyd 1 Medi, 2015 trwy docyn darllenydd LLG
  6. Trewman’s Exeter Flying Post, Tud 15, 22 Mehefin, 1826
  7. The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, gol. D.R. Fisher, 2009; GUEST, Josiah John (1785-1852), of Dowlais House, nr. Merthyr Tydvil, Glam. [3] adalwyd 1 Medi, 2015
  8. The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette, 4 Rhagfyr 1852, The Death of Sir Josiah John Guest [4] adalwyd 1 Medi, 2015
  9. John Davies;Hanes Cymru tud 369 ; Penguin Press, Llundain 1990; ISBN 0-7139-9011-2
  10. "MARWOLAETH SYR J J GUEST AS - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1852-12-09. Cyrchwyd 2015-09-01.
  11. Find a Grave Sir J J Guest [5] adalwyd 1 Medi, 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Etholaeth Newydd
Aelod Seneddol Merthyr Tudful
18321852
Olynydd:
Henry Austin Bruce