Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol
Gwedd
| Enghraifft o: | plaid wleidyddol, former liberal party |
|---|---|
| Idioleg | Rhyddfrydiaeth, unionism in Ireland, Diffyndollaeth, cyfansoddiadaeth |
| Daeth i ben | Mai 1912 |
| Dechrau/Sefydlu | 1886 |
| Olynwyd gan | Y Blaid Unoliaethol |
| Pencadlys | Llundain |
| Enw brodorol | Liberal Unionist Party |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/011jgs |
Roedd y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol yn blaid wleidyddol ym Mhrydain a ffurfiwyd ym 1886 gan garfan a dorrodd i ffwrdd o'r Blaid Ryddfrydol. O dan arweiniad yr Arglwydd Hartington (Dug Dyfnaint yn ddiweddarach) a Joseph Chamberlain bu i'r blaid ffurfio cynghrair gwleidyddol gyda'r Blaid Geidwadol mewn gwrthwynebiad i ymreolaeth i'r Iwerddon. Fe ffurfiodd y gynghrair Llywodraeth Unoliaethol clymbleidiol a fu mewn grym am ddeng mlynedd rhwng 1895-1905, ond cadwasant gronfeydd gwleidyddol ar wahân a threfniadau mewnol unigol hyd i'r ddwy blaid uno i ffurfio'r Blaid Ceidwadol ac Unoliaethol (sef enw ffurfiol y Blaid Geidwadol o hyd) ym mis Mai 1912.