Diffyndollaeth

Oddi ar Wicipedia

Damcaniaeth economaidd a pholisi masnach yw diffyndollaeth sydd yn ymdrechu i amddiffyn a datblygu diwydiannau cartref, er enghraifft trwy godi tollau ar nwyddau tramor.[1] Fel rheol mae diffyndollaeth yn groes i neo-ryddfrydiaeth ac ideolegau'r farchnad rydd, gan ei bod yn galw ar y llywodraeth i gyfyngu ar gystadleuaeth yn yr economi ryngwladol. Yn ôl diffyndollwyr o'r ysgol Keynesaidd, byddai rheoli mewnforion yn cynyddu'r incwm cenedlaethol, ac yn y pen draw yn cynyddu'r mewnforion i gyd gan fydd y wlad yn gyfoethocach.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  diffyndollaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Chwefror 2018.
  2. Roger Scruton, The Palgrave Macmillan Dictionary of Political Thought, 3ydd argraffiad (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2007), t. 564.
Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.