Gerald Jones
Gerald Jones | |
---|---|
Ganwyd | 21 Awst 1970 Tredegar Newydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Shadow Minister for Wales, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwefan | https://www.geraldjones.co.uk |
Mae Gerald Jones (ganwyd 21 Awst 1970) yn wleidydd Plaid Lafur Prydeinig. Bu'n Aelod Seneddol (AS) dros Ferthyr Tudful a Rhymni o etholiad mis Mai 2015 hyd 2024. Wedi ad-drefnu ffiniau etholaethau Cymru ar gyfer Etholiad cyffredinol 2024 safodd fel ymgeisydd yn etholaeth newydd Merthyr Tudful ac Aberdâr gan gipio'r sedd i'w blaid.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Gerald Jones yn 1970 yn Phillipstown yn Nhredegar yng ngogledd Cwm Rhymni.
Cyn dod yn Aelod Seneddol, bu'n gweithio am 15 mlynedd yn y sector drydyddol, yn bennaf yn ymwneud â gwaith cymunedol lle bu'n cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol gyda cheisiadau am arian a gofynion hyfforddiant. Daeth ei ddiddordeb yn hyn o ganlyniad i leihad diwydiannol yn yr ardal yn 1980, a streic y gloywr 1984-5, pan roedd Gerald yn 14 mlwydd oed.
Mae'n agored hoyw ac yn cyflogi ei bartner, Tyrone Powell fel ei Uwch Gynorthwy-ydd Seneddol.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ymunodd a'r Blaid Lafur yn 1988, gan fod yn nifer o swyddi megis Cadeirydd cangen Tredegar ac etholaeth Merthyr Tudfil a Rhymni. Rhwng 2003 a 2015, chwaraeodd ran yn nifer o etholiadol gan fod yn ymgeisydd ac asiant.
Etholwyd Gerald fel Cynghorydd Llafur i Gyngor Sir a Bwrdeistref Caerffili yn 1995, yn edrych ar ôl ei ardal o Dredegar. Am 20 mlynedd, cynrychiolodd ei gymuned.
Roedd yn Is-Arweinydd y Cyngor rhwng 2012 a 2015 ac hefyd wedi bod yn Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Dai, lle bu'n gyfrifol am sicrhau fod y Cyngor yn cyrraedd y Safonau Tai Cymreig. Bu hefyd yn ymgyrchydd gwrth dlodi a digartrefedd.
Mae'n aelod o'r GMB a'r Parti Cydweithredol.
Etholwyd Gerald yn Aelod Seneddol Merthyr Tudfil a Rhymni yn 2015.
Etholiad 2017
[golygu | golygu cod]Cafodd Gerald Jones ei ail-ethol gyda 66.8% o'r bleidlais gyda mwyafrif o 16,334 o fwyafrif.
PLAID | PLEIDLEISIAU | % | CANRAN NEWID YN Y SEDDI+/- % | |
---|---|---|---|---|
Llafur | Gerald Jones | 22,407 | 66.8 | +12.9 |
Ceidwadwyr | Pauline Jorgensen | 6,073 | 18.1 | +8.0 |
Plaid Cymru | Amy Kitcher | 2,740 | 8.2 | -1.3 |
UKIP | David Rowlands | 1,484 | 4.4 | -14.2 |
Dem Rhydfrydol | Bob Griffin | 841 | 2.5 | -1.6 |