Sir Ddinbych (etholaeth seneddol)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Roedd Sir Ddinbych yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1542 hyd at 1885.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

O dan y Deddfau Uno roedd gan bob Sir yng Nghymru (ac eithrio Sir Feirionnydd) yr hawl i ddanfon dau Aelod Seneddol i San Steffan, un ar gyfer y Sir ac un ar gyfer y Bwrdeistrefi. Etholaeth sirol oedd Sir Ddinbych.

Fel y rhan fwyaf o etholaethau Cymru ystyriwyd y sedd i fod o dan ddylanwad un teulu bonheddig, yn achos Sir Ddinbych Teulu Salusbury oedd yn cynrychioli'r sedd o'r cyfnod cynharaf. Pan ddaeth llinach teulu Salisbury Lleweni i ben aeth eu stadau a'u perchenogaeth ar etholaeth Sir Ddinbych yn eiddo i'r Wynniaid, gydag un o deulu Wynn o Wynnstay yn cynrychioli'r sedd bron yn ddi-dor o 1716 hyd 1885.

O dan Ddeddf Diwygio’r Senedd 1832 cafodd nifer aelodau'r sir ei gynyddu i ddau aelod.

Cafodd yr etholaeth ei ddiddymu o dan Ddeddf Ail-ddosbarthu Seddi 1885 ar gyfer etholiad seneddol 1885 pan holltwyd yr etholaeth yn ddwy sedd un aelod; Gorllewin Sir Ddinbych a Dwyrain Sir Ddinbych.

Ffiniau'r sedd oedd y cyfan o'r hen Sir Ddinbych (1283-1974).

Mae hanes cynnar cynrychiolaeth y sedd yn ddryslyd, gyda pheth anghytundeb yn y dogfennau Seneddol parthed pwy oedd yn cynrychioli'r Sir a phwy oedd cynrychiolydd y Fwrdeistref ac yn union pha John Salisbury oedd yr AS ar wahanol gyfnodau.

Mae'n debyg mae John Salusbury (bu farw tua 1548)[1] Siôn y Bodiau, mab ieuengaf Syr Thomas Salusbury oedd yr AS cyntaf. Bu John Salusbury, gŵr cyntaf Catrin o Ferain yn AS y sir, a'r Syr John Salisbury, a oedd yn barddoni yn Saesneg, hefyd. Ond mae gweithio allan dyddiau eu gwasanaeth, a gwahaniaethu rhyngddynt, o ran gwasanaeth Seneddol, bron yn amhosibl.[2]

Aelodau Seneddol hyd Ddeddf Diwygio 1832[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Aelod
1542 John Salusbury[3]
1545 John Salusbury[3]
1547 John Salusbury[3]
1553 (Maw) Robert Puleston[3]
1553 (Hyd) John Salusbury [3]
1554 (Ebr) John Salusbury[3]
1554 (Tach) Syr John Salusbury [3]
1555 Edward Almer[3]
1558 Syr John Salusbury [3]
1559 John Salusbury[3]
1562–1563 Simon Thelwall[3]
1571 Robert Puleston[3]
1572 William Almer[3]
1584 Evan Lloyd[3]
1586 Robert Salesbury[3]
1588–1589 John Edwards / William Almer[3]
1593 Roger Puleston[3]
1597 John Lloyd[3]
1601 Syr John Salusbury[3]
1604 Peter Mutton
1614 Simon Thelwall
1621 Syr John Trevor
1624 Syr Eubulus Thelwall
1625 Thomas Myddelton
1626 Syr Eubulus Thelwall
1628 Syr Eubulus Thelwall
1629–1640 Dim Senedd
1640 (Ebr) Syr Thomas Salusbury
1640 (Tach) Syr Thomas Myddelton
1653 Dim aelod
1654 Simon Thelwell a John Carter
1656 John Carter a John Jones
Lumley Thelwell
1659 John Carter
1659 Dim aelod
1660 Syr Thomas Myddelton
1661 Syr Thomas Myddelton, Barwnig 1af
1664 John Wynne
1679 Syr Thomas Myddelton, 2il Farwnig
1681 Syr John Trevor
1685 Syr Richard Myddelton, 3ydd Barwnig
1716 Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig
1727 Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig
1741 John Myddelton
1742 Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig
1749 Syr Lynch Cotton, 4ydd Barwnig
1774 Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig
1789 Robert Watkin Wynne
1796 Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig
1832 Cynyddu cynrychiolaeth i ddau aelod

Aelodau Seneddol 1832-1885[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad Aelod 1af Plaid 1af 2il Aelod 2il Blaid
1832 Syr Watkin Williams-Wynn Ceidwadol Robert Myddelton-Biddulph Rhyddfrydol
1835 William Bagot Ceidwadol
1840 Hugh Cholmondeley Ceidwadol
1841 Syr Watkin Williams-Wynn Ceidwadol
1852 Robert Myddleton-Biddulph Rhyddfrydol
1868 George Osborne Morgan Rhyddfrydol
1885 Syr Herbert Williams-Wynn Ceidwadol
1885 Etholaeth yn cael ei ddiddymu o dan Ddeddf Ail-ddosbarthu Seddi 1885: gweler Gorllewin Sir Ddinbych a Dwyrain Sir Ddinbych

Etholiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwau mewn ysgrifen trwm wedi eu hethol

Etholiadau yn y 1830au[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad cyffredinol 1832: Sir Ddinbych

Nifer yr etholwyr 3,401 [4]

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Syr Watkin Williams-Wynn 2,528 47.7
Rhyddfrydol Robert Myddelton-Biddulph 1,479 27.9
Ceidwadwyr Lloyd Kenyon 1,291 24.4
Etholiad cyffredinol 1835: Sir Ddinbych

Nifer yr etholwyr 3,395[4]

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Syr Watkin Williams-Wynn 2,378 46.2
Ceidwadwyr William Bagot 1,512 29.4
Rhyddfrydol Robert Myddelton-Biddulph 1,256 24.4
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Etholiad cyffredinol 1837 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn a'r Anrhydeddus William Bagot eu hethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr.[4]

Etholiadau yn y 1840au[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Syr Watkin ym 1840 a chafodd ei olynu gan ei nai Yr Anrhydeddus Hugh Cholmondeley ar ran y Ceidwadwyr yn ddiwrthwynebiad.

Ymddiswyddodd Cholmondeley ym 1841 a chafodd ei olynu gan ei gefnder Syr Watkin Williams-Wynn arall ar ran y Ceidwadwyr yn ddiwrthwynebiad.

Etholiad cyffredinol 1841 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn a'r Anrhydeddus William Bagot eu hethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr.

Etholiad cyffredinol 1847: Sir Ddinbych

Nifer yr etholwyr 3,939

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Syr Watkin Williams-Wynn 2,055 41.3
Ceidwadwyr William Bagot 1,530 30.7
Rhyddfrydol Robert Myddleton-Biddulph 1,394 28.0
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1850au[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad cyffredinol 1852: Sir Ddinbych

Nifer yr etholwyr 3,901

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Syr Watkin Williams-Wynn 2,135 40.5
Rhyddfrydol Robert Myddleton-Biddulph 1,611 29.0
Ceidwadwyr William Bagot 1,532 30.7
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Etholiad cyffredinol 1857 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd Robert Myddleton-Biddulph ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr

Etholiad cyffredinol 1859 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd Robert Myddleton-Biddulph ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr

Etholiadau yn y 1860au[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad cyffredinol 1865 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd Robert Myddleton-Biddulph ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr

Etholiad cyffredinol 1868: Sir Ddinbych

Nifer yr etholwyr 7,623

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Syr Watkin Williams-Wynn 3,355 39.5
Rhyddfrydol George Osborne Morgan 2,720 32.0
Rhyddfrydol Robert Myddleton-Biddulph 2,412 28.5
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau (diwrthwynebiad) y 1870au a'r 1880au[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni fu etholiad cystadleuol yn Sir Ddinbych ar ôl un 1865.

Etholiad cyffredinol 1874 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd George Osborne Morgan ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr.

Etholiad cyffredinol 1880 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd George Osborne Morgan ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr.

Bu Syr Watkin marw ym 1885 fe'i olynwyd ar 27 Mai 1885 gan Syr Herbert Lloyd Watkin Williams Wynn yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr. Cynhaliwyd etholiad cyffredinol ym mis Ebrill 1885, pan ddiddymwyd yr etholaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 5 Mehefin 2014.
  2. SALUSBURY , SALISBURY , SALESBURY (TEULU), Llewenni a Bachygraig yn y Bywgraffiadur arlein adalwyd 27 Chwef 2014
  3. 3.00 3.01 3.02 3.03 3.04 3.05 3.06 3.07 3.08 3.09 3.10 3.11 3.12 3.13 3.14 3.15 3.16 3.17 3.18 "History of Parliament". The History of Parliament Trust 1964–2011. http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1558-1603/constituencies/denbighshire. Adalwyd 2017-04-24.
  4. 4.0 4.1 4.2 Wales at Westminster James, Arnold J a Thomas John E Gwas Gomer 1981