Robert Myddelton-Biddulph

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Robert Myddelton-Biddulph
Reformers of Denbighshire! 1837.jpg
Hysbyseb etholiad
Ganwyd 20 Mehefin 1805 Edit this on Wikidata
Bu farw 21 Mawrth 1872 Edit this on Wikidata (66 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Roedd y Cyrnol Robert Myddelton-Biddulph (20 Mehefin 1805 - 21 Mawrth 1872) yn dirfeddiannwr Cymreig ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd yn Senedd y Deyrnas Unedig fel Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi a Sir Ddinbych[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif fynedfa Castell y Waun.

Roedd yn fab hynaf Robert Biddulph o Ledbury Swydd yr Amwythig a Charlotte merch hynaf a chyd etifedd Richard Myddelton o Gastell ac Ystâd y Waun. Wedi marwolaeth ei dad daeth Robert iau yn sgweier y Waun.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton ac Eglwys Crist, Rhydychen.

Priododd Fanny ail ferch William Mostyn Owen o Woodhouse, Croesoswallt bu iddynt dau fab a thair merch.[2]

Gyrfa Cyhoeddus[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu ymgais cyntaf Myddelton-Biddulph i gyrraedd y Senedd yn etholiad Cyffredinol 1826. Yn y dyddiau hynny doedd yna ddim diwrnod etholiadau penodedig fel sydd bellach; roedd y Senedd yn cael ei gau a bu cyhoeddiad bod raid i bob etholaeth dewis Aelod Newydd mewn da bryd i gyrraedd Llundain erbyn cychwyn y senedd nesaf; mater i Uchel Siryf y Sir oedd penodi diwrnod ar gyfer y bleidlais. Roedd Robert wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll, wedi cyhoeddi datganiad etholiadol ac wedi mynd ati i ymgyrchu’n frwd dros achos y Chwigiaid gyda phob rhagolwg yn awgrymu ei fod am ennill. Er mwyn rhwystro'r ymgyrch penderfynodd Thomas Fitzhugh y Tori o Uchel Siryf i alw'r etholiad ar 12fed Mehefin, wythnos cyn y byddai Myddelton-Biddulph yn 21 oed ac yn gymwys i sefyll.

Safodd fel ymgeisydd dros fwrdeistrefi Dinbych yn etholiad cyffredinol 1830 gan ennill y sedd yn ddiwrthwynebiad. Yn etholiad cyffredinol 1832 fe safodd yn etholaeth Sir Ddinbych gan gipio'r ail sedd. Collodd ei sedd i'r Ceidwadwyr ym 1835.

Wedi cyfnod o ymatal rhag cystadlu etholiadau safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Sir Ddinbych yn etholiad Cyffredinol 1852 gan gadw'r sedd yn ddiwrthwynebiad hyd etholiad cyffredinol 1868. Gan fod Sir Ddinbych yn etholaeth a oedd yn dychwelyd dau aelod i'r Senedd penderfynodd y blaid i sefyll dau ymgeisydd ym 1868 yn yr obaith o ennill y ddwy sedd, ond nid felly y bu; cadwodd Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig y sedd gyntaf i'r Ceidwadwyr, daeth George Osborne Morgan yr ymgeisydd Rhyddfrydol newydd yn ail gan achosi i Myddelton Biddulph i golli ei sedd.[3]

Yn ogystal â gwasanaethu fel AS bu Myddelton-Biddulph hefyd yn Arglwydd Raglaw Sir Ddinbych o 1840 hyd ei farwolaeth. Bu yn Ynad Heddwch dros Swydd Henffordd yn Gyrnol ym Milisia Sir Ddinbych ac yn Aide de Camp i'r Frenhines Victoria[4]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref yn Llundain 35 Grovesnor Place ym 1872 yn 66 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yng nghladdgell y teulu yn Eglwys y Waun.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895
  2. The Death of Col Robert Myddelton-Biddulph of Chirk Castle Llangollen Advertiser 29 Mawrth 1872 [1] adalwyd 14 Ebrill 2015
  3. The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009 MYDDELTON BIDDULPH, Robert (1805-1872), of Chirk Castle, Denb. and 35 Grosvenor Place, Mdx.[2] adalwyd 14 Ebrill 2015
  4. The death of Col Myddelton-Biddulph Cambrian News and Merionethshire Standard 29 Mawrth 1872 [3] adalwyd 14 Ebrill 2015
  5. THE FUNERAL OF COLONEL MYDDELTON BIDDULPH Llangollen Advertiser 5 Ebrill 1872 [4] adalwyd 14 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Frederick Richard West
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych
18301832
Olynydd:
John Madock
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Watkin Williams-Wynn
Aelod Seneddol Sir Ddinbych
18321835
Olynydd:
William Bagot
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Bagot
Aelod Seneddol Sir Ddinbych
18521868
Olynydd:
George Osborne Morgan