Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig
Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mai 1820 Llundain |
Bu farw | 9 Mai 1885 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig |
Mam | yr Arglwyddes Henrietta Clive |
Priod | Marie Emily Williams-Wynn |
Plant | Louise Williams-Wynn, merch anhysbys Williams-Wynn |
Gwleidydd Cymreig oedd Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig (22 Mai 1820 – 9 Mai 1885). Roedd yn aelod seneddol dros Sir Ddinbych o 1841 hyd ei farwolaeth yn 1885 yn 64 oed. Deilwyd y sedd gan ei dad gynt, a'i daid a'i hen-daid, Watkin Williams-Wynn oedd eu henwau hwy i gyd hefyd.
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Roedd Syr Watkin yn fab hynaf Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig a Henrietta merch Edward Clive, Iarll cyntaf Powys [1]
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen.
Ar 28 Ebrill 1852, yn Eglwys Saint James Llundain, priododd ei gyfnither Marie Emily Williams Wynne merch Henry Williams Wynne, Llysgennad Prydain yn Nenmarc[2]
Gwasanaeth milwrol
[golygu | golygu cod]Ym 1839 fe ymunodd a'r Life Guards fel canwr corn, cafodd ei ddyrchafu yn is-gapten ym 1842, ymadawodd a'r fyddin reolaidd ym 1843. Roedd yn Is-gyrnol yng Nghatrawd Iwmyn Sir Drefaldwyn o 1844 i 1877 ac yn Gyrnol anrhydeddus y gatrawd hyd ei farwolaeth. Roedd yn bennaeth Gwirfoddolwyr Reiffl Sir Ddinbych o 1862 hyd ei farwolaeth; roedd y gwirfoddolwyr yn cynnal gwersyll ymarfer flynyddol ar dir Syr Watcyn yn Wynnstay.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Hugh Cholmondeley a William Bagot |
Aelod seneddol Sir Ddinbych gyda William Bagot, 1841–1852; Robert Myddelton-Biddulph, 1852–1868; George Osborne Morgan, 1868–1885 |
Olynydd: George Osborne Morgan a Syr Herbert Williams-Wynn |
Barwnigion Lloegr | ||
Rhagflaenydd: Watkin Williams-Wynn |
Barwnig 1840–1885 |
Olynydd: Watkin Williams-Wynn |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sir Watkins BirthI - Denbighshire Free Press". Charles Cottom & Co. 1885-05-16. Cyrchwyd 2020-01-30.
- ↑ "SIR WATKIN'S MARRIAGE - Denbighshire Free Press". Charles Cottom & Co. 1885-05-16. Cyrchwyd 2020-01-30.