Hugh Cholmondeley, 2il Farwn Delamere

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hugh Cholmondeley, 2il Farwn Delamere
Hugh Cholmondeley, 2nd Baron Delamere.jpg
Ganwyd 3 Hydref 1811 Edit this on Wikidata
Vale Royal Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Awst 1887 Edit this on Wikidata (75 oed)
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Roedd Hugh Cholmondeley, 2il farwn Delamere[1] (3 Hydref 18111 Awst 1887), yn dirfeddianwr Seisnig ac yn wleidydd Ceidwadol. Fe wasanaethodd yn Senedd y Deyrnas Unedig fel Aelod Seneddol Sir Ddinbych, Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn ac fel aelod o Dŷ'r Arglwyddi.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Hugh yn fab hynaf i Thomas Cholmondeley barwn cyntaf Delamere; roedd ei fam Henrietta Elizabeth Williams-Wynn yn ferch i Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig ac yn wyres i'r cyn Brif Weinidog George Grenville. Roedd y teulu yn perthyn hefyd i'r un ach a Syr Robert Walpole, Prif Weinidog cyntaf Prydain Fawr.

Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Eton, cyn ymuno a'r Life Guards fel canwr corn; wedi ymadael a'r byddin reolaidd daeth yn gyrnol ar Filisia Swydd Gaer gan dal y swydd hyd ddiwedd ei oes

Ym 1848, priododd Cholmondeley a'r Ledi Sarah Hay-Drummond, merch Thomas Gelli-Drummond, 11eg Iarll Kinnoull; ni chawsant plant bu hi farw ym 1859. Priododd eto ym 1860 Augusta Emily Seymour, merch Syr George Hamilton Seymour cawsant un mab ac un ferch:

  • Hugh Cholmondeley, 3ydd Barwn Delamere (28 Ebrill, 1870 - 13 Tachwedd, 1931)
  • Sybil Cholmondeley (29 Rhagfyr, 1871 - 26 Mai, 1911)

Bu farw Farwnes Delamere yn 1911

Ystâd[golygu | golygu cod y dudalen]

Abaty Vale Royal

Sedd deuluol Hugh Cholmondeley oedd Abaty Vale Royal sydd wedi ei leoli yn Whitegate, yn Swydd Gaer. Cyn datgysylltu'r abatai roedd Vale Royal yn abaty Sistersaidd. Daeth yr ystâd yn eiddo i deulu Cholmondeley ym 1615[3] a bu'r teulu'n byw yno hyd y 1940au. Bu'r teulu yn chware rhan blaenllaw ym mywyd Swydd Gaer a Siroedd Gogledd Cymru am genedlaethau. Bu perthnasau i Hugh yn cynrychioli Gororau Cymru yn y senedd yn di dor o'r 16g hyd yr Ail Ryfel Byd; bu aelodau'r teulu hefyd yn cyflawni bron pob swydd gyhoeddus arall oedd ar gael; bu Hugh yn gwasanaethu fel ynnad heddwch dros Gaer ac yn Is Arglwydd Raglaw'r sir.[4]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Safodd Cholmondeley ei etholiad cyntaf mewn isetholiad yn etholaeth Sir Ddinbych a achoswyd gan farwolaeth ei ewyrth Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig; cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr. Safodd yn Ninbych fel gweithred o gadw'r sedd yn gynnes i'w gefnder Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig dod i delerau efo marwolaeth ei dad; ildiodd y sedd i'w gefnder yn etholiad cyffredinol 1841

Safodd Cholmondeley yn etholaeth Bwrdeistref Trefaldwyn yn etholiad cyffredinol 1841 gan gadw'r sedd i'r Ceidwadwyr mewn gornest yn erbyn gwrthwynebydd Rhyddfrydol. Safodd etholiad cystadleuol eto yn etholiad cyffredinol 1847, y tro hwn yn erbyn David Pugh gwrthwynebydd o'r un blaid ag ef. Canlyniad yr etholiad oedd bod y ddau ymgeisydd yn gyfartal. Gan fod y ddau ymgeisydd yn gyfartal bu'n rhaid i bwyllgor seneddol pennu'r buddugol; gan na wnaed cais i'r pwyllgor i gefnogi achos Cholmondeley dros gadw'r sedd cafodd Pugh ei ethol.[5][6]

Etholiad cyffredinol 1847: Bwrdeistref Trefaldwyn
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr David Pugh 389 50
Ceidwadwyr Hugh Cholmondeley 389 50
Mwyafrif 0
Y nifer a bleidleisiodd 79.2

Ar farwolaeth ei dad ym 1855 dyrchafwyd Cholmondeley i Dŷ'r Arglwyddi fel yr ail farwn Delamere

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw'r Arglwydd Delamere yn ei gartref Royal Vale ar 1 Awst 1887 a rhoddwyd ei olion i'w orffwys yn gladdgell y teulu ym mynwent eglwys Whitegate.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Nodyn ynganir Chumley (megis yn yr enw anffurfiol Saesneg am gyfaill)
  2. T7 Col3 Cheshire Observer 06 Awst 1887 The death of Lord Delamere
  3. Vale Royal Chester Courant and Advertiser For North Wales 18 Mawrth 1903 [1] adalwyd 14 Ebrill 2015
  4. T5 Col2 Morning Post 02 Awst 1887 The Death of Lord Delamere
  5. James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
  6. Curious Welsh Elections Cardiff Times 10 Tachwedd 1900 [ http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3426819/ART14] adalwyd 14 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Watkin Williams-Wynn
Aelod Seneddol Sir Ddinbych
18401841
Olynydd:
Syr Watkin Williams-Wynn
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr John Edwards
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn
18411847
Olynydd:
David Pugh
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
Thomas Cholmondeley
Barwn Delamere
18551887
Olynydd:
Hugh Cholmondeley