Ystad Wynnstay

Oddi ar Wicipedia
Ystad Wynnstay
Mathystad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 19 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhiwabon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9763°N 3.031°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethSyr John Wynn, 5ed Barwnig, Teulu Wynniaid, Rhiwabon, teulu Williams Wynn Edit this on Wikidata

Ystad enwog yng Ngogledd Cymru oedd Ystad Wynnstay, sedd Wyniaid Wynnstay (teulu Williams Wyn). Canolfan yr ystad oedd y plasdy o'r un enw yn Rhiwabon, ger Wrecsam.

Yn ystod yr 17g, etifeddodd Syr John Wynn, 5ed Barwnig Ystad Wynnstay trwy ei briodas â Jane Evans, merch Eyton Evans o Watstay, ac ailenwodd yr ystad yn Wynnstay. Gosodwyd y gerddi yno gan Capability Brown.

Dyfrlliw gan John Ingleby; 1793.
Ystâd Wynnstay, Rhiwabon heddiw

yn y 18g, cyflogwyd John Parry (Y Telynor Dall) (1710?-1782) yn delynor Wynnstay. Roedd tafarn y Wynnstay yn Rhuthun yn rhan o'u hystâd.

Mae enwogion megis Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig wedi aros yn y plasdy. Yn ystod y 19g, arosodd y Dywysoges Victoria ifanc yno gyda'i mam.

Wedi i'r tŷ gael ei wâcau gan y teulu Williams-Wynn tua chanol yr 20g, cymerwyd o drosodd gan Goleg Lindisfarne. Pan gaewyd yr ysgol honno, tröwyd yr adeilad yn fflatiau a sawl tŷ preifat.

Ystadau eraill Wynnstay[golygu | golygu cod]

Roedd etifeddiaeth ystad Wynnstay yn ymestyn ymhellach na'r tŷ mawr a'i ystad. Prynwyd Mathafarn, ym Mallwyd, gan fam Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig ar ei ran, a daeth yn rhan o ystadau Wynnstay. Daeth Y Rug, Corwen yn rhan o'r ystadau hefyd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  • (Saesneg) [1] Adysgrif gwybodaeth o Picturesque Views of Seats of The Noblemen and Gentlemen of Great Britain and Ireland, golygwyd gan F. O. Morris (cyhoeddwyd tua 1880)