Syr John Wynn, 5ed Barwnig

Oddi ar Wicipedia
 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Syr John Wynn, 5ed Barwnig
Ganwyd1628 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1719, 7 Ionawr 1718 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1af Prydain Fawr, Aelod o Ail Senedd Prydain Fawr, Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Member of the 1679 Parliament, Member of the 1680-81 Parliament, Member of the 1685-87 Parliament, Member of the 1689-90 Parliament, Member of the 1690-95 Parliament, Member of the 1698-1700 Parliament, Aelod o Senedd 1701, Aelod o Senedd 1701-02, Aelod o Senedd 1702-05, Aelod o Senedd 1705-07 Edit this on Wikidata
TadHenry Wynn Edit this on Wikidata
PriodJane Evans Edit this on Wikidata

Olynodd Syr John Wynn, 5ed Barwnig (16281719) ei gefnder Syr Richard Wynn, 4ydd Barwnig fel barwnig yn 1674, ond nid etifeddodd diroedd Ystad Gwydyr, a basiodd i ferch ei rhagflaenydd, Mary.

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Etifeddodd Syr John Watstay (newidiwyd ei enw'n ddiweddarach i 'Wynnstay') trwy ei briodas â Jane Evans, merch Eyton Evans o Watstay. Honnir hefyd iddo ennill Ystad Stanwardine yn Swydd Amwythig oddi wrth Thomas Corbett mewn ras falwod.

Bywyd diweddarach[golygu | golygu cod]

Bu fyw Syr John i'w nawdegau, gan fyw yn Llundain y rhan fwyaf o'r amser, ond bu farw'n ddi-blant ym 1719. Ar ei farwolaeth, diflannodd llinach Barwnigion Wynn a gadawyd "Tŷ Aberffraw" heb unrhyw ddisgynyddion gwrywol a wyddwn amdano (a oedd yn honni i fod yn ddisgynyddion Rhodri Mawr ap Merfyn yn y 9g a disgynnydd anuniongyrchol o Frenin-Uwch Brwth yn yr Oes Haearn).

Disgynnydd a pherthnasau posib[golygu | golygu cod]

Os fuasai Thomas Jones (Twm Siôn Cati) yn wir wedi bod yn fab anghyfreithlon John "Wynn" ap Maredudd, fel honnodd Syr John Wynn, Barwnig 1af yn ei hanes teulu, buasai ei blant ef wedi bod yn nesaf yn y linell i etifeddu, gan fod gan feibion anghyfreithlon yr un hawliau a rhai cyfreithlon dan gyfraith hynafol Cymru. Mae hefyd sawl honiad fod perthnasau "coll", megis Cyrnol Hugh Wynn sy'n cael ei honni i symud i Virginia a chodi teulu yno. Ond, heb etifeddwr amlwg, fe gymynroddodd Syr John holl ystadau Wynnstay i Jane Thelwall (hen-wyres Syr John Wynn, Barwnig 1af) a oedd yn briod erbyn hynny i Syr William Williams, 2il Farwnig (tua 166520 Hydref 1740). Syr John Wynn a Syr William Williams oedd y ddau perchnogion tir mwyaf yng ngogledd Cymru ar y pryd, rhwng y ddau roedd ystadau eraill Cymru'n cael eu corrachu. I anrhydeddu llinach ei wraig, newidiodd Syr William Williams ei enw i Syr William Williams-Wynn o Wynnstay.

Yr etifeddwr presennol yw Syr David Watkin Williams-Wynn, 11fed Barwnig (ganwyd 1940).

Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
William Owen
Custos Rotulorum Sir Drefaldwyn
1678 – 1688
Olynydd:
Ardalydd Powys
Rhagflaenydd:
Syr William Williams
Custos Rotulorum Sir Drefaldwyn
1690 – 1711
Olynydd:
Edward Vaughan
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
Syr Richard Wynn
Penaeth Tŷ Cunedda
1674 – 1719
Olynydd:
?
Pendefigaeth Lloegr
Rhagflaenydd:
Syr Richard Wynn
Barwnig (Gwydir)
1674–1719
Olynydd:
Lliniach diflanedig

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • D.N.B., lxiii; Cal. Wynn (of Gwydir) Papers, passim; Clenennau Letters, i, Introduction
  • Hist. Gwydir Family, passim; W. R. Williams, Parl. Hist. of Wales, passim
  • E. Breeze, Kalendars of Gwynedd, passim; Cymm., xxxviii
  • The Welsh Review, v, 187-191; Trans. Caern. Hist. Soc., 1939, 37-46; J. E. Griffith, Pedigrees, 280-1
  • E. G. Jones, ‘The Caernarvonshire Squires, 1558-1625’ (Thesis M.A. heb ei gyhoeddi, Prifysgol Cymru).
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.