Anna McMorrin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Anna McMorrin
AS
Official portrait of Anna McMorrin crop 2.jpg
Aelod Seneddol
dros Ogledd Caerdydd
Yn ei swydd
Dechrau
8 Mehefin 2017
Rhagflaenydd Craig Williams
Mwyafrif 4,174 (8.0%)
Manylion personol
Ganwyd 1971
Plaid wleidyddol Y Blaid Lafur

Gwleidydd Llafur Prydeinig yw Anna McMorrin (ganwyd 1971), ac yr AS[1] dros Ogledd Caerdydd.[2][3]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Magwyd McMorrin ger Aberhonddu. Wedi ymuno â'r Blaid Lafur eisoes, graddiodd o Brifysgol Southampton ym 1994 â gradd BA mewn Ffrangeg a Gwleidyddiaeth. Yn 1997, graddiodd o Brifysgol Caerdydd, gyda diploma ôl-radd mewn newyddiaduraeth.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi graddio, gweithiodd McMorrin yn y maes  cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu. Ar ôl gweithio yn rhan-amser fel swyddog cyfathrebu ar gyfer y Blaid Lafur yn 1996/7, bu'n gweithio fel ymgynghorydd materion cyhoeddus ar gyfer Hill a Knowlton. Yn 2006, daeth yn gyfarwyddwr ymgyrchoedd a chyfathrebu Cyfeillion y Ddaear Cymru. Yn 2008, ymunodd â Llywodraeth Cymru, gan ddod yn ymgynghorydd arbenigol i'r Gweinidog Cyfoeth naturiol, Alun Davies. Yn 2014, symudodd o'r swydd yna i un arall o fewn Llywodraeth Cymru, cyn gadael i ddod yn gyfarwyddwr Llais Cyf. Ym mis Hydref 2016 ymunodd a Invicta Public Affairs.[5]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd McMorrin yn briod, ac mae ganddi dwy ferch o'r berthynas honno. Ar ôl gwahanu o'i gŵr, yn 2014, cafodd ei symud o'i swydd yng ngweinyddiaeth Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru, wedi cychwyn perthynas gyda'r gweinidog ar y pryd, ac ei bos, Alun Davies,[6] a bellach mae'r ddau yn cyd-fyw yng Nghaerdydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Craig Williams
Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd
2017
Olynydd:
deiliad