Cyfeillion y Ddaear

Oddi ar Wicipedia
Cyfeillion y Ddaear
Enghraifft o'r canlynolenvironmental organization, sefydliad anllywodraethol, sefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1971 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifAmsab - Instituut voor Sociale Geschiedenis Gent Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolEuropean Environmental Bureau Edit this on Wikidata
Isgwmni/auJordens Vänner Edit this on Wikidata
GwladwriaethDenmarc Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.foei.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Protestwyr mewn gwisg gwartheg yn y gwrthdystiad blynyddol yn erbyn amaeth ddiwydiannol a gyd-drefnir gan Gyfeillion y Ddaear yn yr Almaen, Wir haben es satt! ("Rydyn ni wedi cael llond bol!").

Mudiad amgylcheddol yw Cyfeillion y Ddaear sy'n bodoli fel rhwydwaith o sefydliadau mewn 75 o wledydd. Rhennir yn grwpiau cenedlaethol sy'n cydlynu gwirfoddolwyr lleol y werin gwlad (grassroots). Gweithredir y mudiad ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol, a lleol i ymgyrchu dros ddiogelu'r amgylchedd ac hyrwyddo cynaladwyedd, i wrthwynebu creulondeb i anifeiliaid ac effaith newid hinsawdd ar y blaned a'i phoblogaeth, ac o blaid cyfiawnder cymdeithasol, hawliau dynol a masnach deg. Mae sawl agwedd o'r mudiad hefyd yn cofleidio gwrth-gyfalafiaeth, y mudiad gwrth-globaleiddio, ac anarcho-gyntefigiaeth neu anarchiaeth werdd. Lleolir yr ysgrifenyddiaeth ryngwladol yn Amsterdam er cydlynu a chefnogi prif ymgyrchoedd Cyfeillion y Ddaear. Pwyllgor gweithredol o gynrychiolwyr etholedig sy'n llunio polisi ac arolygu gwaith yr ysgrifenyddiaeth. Yr ymgyrchydd Karin Nansen o Wrwgwâi yw'r cadeirydd rhyngwladol ers 2016.

Sefydlwyd y garfan gyntaf, Friends of the Earth (FOTE) yn yr Unol Daleithiau, ym 1969 gan Robert O. Anderson, dyngarwr ac un o feistri'r diwydiant olew, i wrthwynebu ynni niwclear. Cyfranodd Anderson $200,000 o arian ei hun i lansio'r sefydliad, gyda chefnogaeth cyn-weinyddwr y Sierra Club David Brower a'r ymgyrchwyr Donald Aitken a Jerry Mander. Amory Lovins oedd y gweithiwr cyntaf, ac efe a sefydlai'r mudiad yn y Deyrnas Unedig. Datblygodd y rhwydwaith rhyngwladol ym 1971 wrth i gynrychiolwyr o UDA, y DU, Sweden, a Ffrainc gwrdd â'i gilydd.

Cyfeillion y Ddaear Cymru[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Cyfeillion y Ddaear Cymru ym 1984, tair mlynedd ar ddeg wedi sefydlu Cyfeillion y Ddaear DU ym 1971, i ymgyrchu yn benodol yng Nghymru ar faterion amgylcheddol. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru'n cyflogi pedwar o bobl sydd wedi eu lleoli yn bennaf yng Nghaerdydd, yn swyddi'r cyfarwyddwr, yr ymgyrchydd, y swyddog datblygu grwpiau lleol, a'r swyddog cyfathrebu. Mae'n dibynnu ar unigolion am dros 90 y cant o'i incwm ac ar gefnogaeth gwirfoddolwyr.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: