Amgylcheddaeth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Usstamp-save-our.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolideoleg wleidyddol, mudiad cymdeithasol, ideoleg, athroniaeth Edit this on Wikidata
MathEcoleg, activism Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebgwrth-amgylcheddaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae amgylcheddaeth neu hawliau amgylcheddol yn athroniaeth eang, yn ideoleg ac yn symudiad cymdeithasol sy'n ceisio diogelu'r amgylchedd a gwella'r amgylchedd.

Mae'r newidiadau i'r amgylchedd hefyd yn cael effaith ar fodau dynol, anifeiliaid, planhigion a mater nad yw'n fyw. Tra bod amgylcheddaeth yn canolbwyntio mwy ar agweddau amgylcheddol, gwleidyddiaeth ideoleg werdd a gwleidyddiaeth yn ei gyfanrwydd, mae ecoleg yn cyfuno ideoleg ecoleg gymdeithasol ac amgylcheddiaeth.

Mae amgylcheddaeth yn cefnogi cadwraeth, adfer a gwella'r amgylchedd naturiol ac elfennau neu brosesau system ddaear hanfodol fel yr hinsawdd, a gellir cyfeirio ato fel mudiad rheoli llygredd neu fudiad amddiffyn cyfoeth amrywiaeth pob rhywogaeth dan haul.[1] Am y rheswm hwn, mae cysyniadau fel moeseg tir, moeseg amgylcheddol, bioamrywiaeth, ecoleg, a rhagdybiaeth bioffilia yn bethau blaenllaw, pwysig.

Wrth wraidd hyn, mae amgylcheddaeth yn ymgais i gydbwyso cysylltiadau rhwng bodau dynol a'r gwahanol systemau naturiol y maent yn dibynnu arnynt yn y fath fodd fel bod yr holl gydrannau'n gynaliadwy. Mae union fesurau a chanlyniadau'r cydbwysedd hwn yn ddadleuol ac mae yna lawer o wahanol ffyrdd i fynegi pryderon amgylcheddol yn ymarferol, gan gynnwys protestio. Mae amgylcheddaeth a phryderon amgylcheddol yn aml yn cael eu cynrychioli gan y lliw gwyrdd,[2][3]

Gwrthwynebir amgylcheddaeth gan wrth-amgylcheddiaeth, sy'n dweud bod y Ddaear yn llai bregus nag y mae rhai amgylcheddwyr yn ei gredu, ac yn portreadu amgylcheddaeth fel gorymateb i gyfraniad dynol at newid yn yr hinsawdd neu'n gwrthwynebu datblygiad dynol.[4]

Diffiniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae amgylcheddaeth yn fudiad cymdeithasol sy'n ceisio dylanwadu ar y broses wleidyddol trwy lobïo, actifiaeth ac addysg er mwyn amddiffyn adnoddau naturiol ac ecosystemau.

Mae amgylcheddwr yn berson a all godi llais i warchod yr amgylchedd naturiol a thros reolaeth gynaliadwy o adnoddau'r Ddaear trwy newidiadau mewn polisi cyhoeddus neu ymddygiad unigol. Gall hyn gynnwys cefnogi arferion fel defnydd gwybodus, mentrau cadwraethol, buddsoddi mewn adnoddau adnewyddadwy, gwell effeithlonrwydd yn yr economi deunyddiau, trosglwyddo i batrymau fel economeg ecolegol ayb.

Yn gyffredinol, mae amgylcheddwyr yn cefnogi rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau, ac amddiffyn yr amgylchedd naturiol a'i adfer trwy newidiadau mewn polisi cyhoeddus ac ymddygiad unigol. Wrth gydnabod dynoliaeth fel cyfranogwr mewn ecosystemau, mae'r mudiad yn canolbwyntio ar ecoleg, iechyd a hawliau dynol .

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir pryder am ddiogelu'r amgylchedd mewn ffurfiau amrywiol, mewn gwahanol rannau o'r byd, trwy gydol hanes. Gellir olrhain y syniadau cynharaf o amddiffyn yr amgylchedd mewn Jainiaeth, a gafodd ei adfywio gan Mahavira yn y 6g CC yn India hynafol. Mae Jainiaeth yn cynnig barn debyg i'r gwerthoedd craidd sy'n gysylltiedig ag actifiaeth amgylcheddol, hy amddiffyn bywyd trwy weithredoedd di-drais a galwadau byd-eang am ddiogelu'r amgylchedd. Mae ei ddysgeidiaeth ar y symbiosis rhwng yr holl fodau byw a'r pum elfen - daear, dŵr, aer, tân, a gofod - yn sail i wyddorau amgylcheddol heddiw.[5][6]

Yn y Dwyrain Canol, gorchmynnodd y Caliph Abu Bakr yn y 630au i'w fyddin "Na niweidiwch y coed, na'u llosgi â thân," a "Peidiwch â lladd unrhyw un o braidd y gelyn, oni bai eich bod am eu bwyta." [7] Ysgrifennwyd erthygl feddygol mewn Arabeg yn ystod y 9g i'r 13g yn delio ag amgylcheddaeth a gwyddoniaeth amgylcheddol, gan gynnwys llygredd, gan Al-Kindi, Qusta ibn Luqa, Al-Razi, Ibn Al-Jazzar, al-Tamimi, al-Masihi, Avicenna, Ali ibn Ridwan, Ibn Jumay, Isaac Israel ben Solomon, Abd-el-latif, Ibn al-Quff, ac Ibn al-Nafis . Roedd eu gwaith yn ymdrin â nifer o bynciau yn ymwneud â llygredd, megis llygredd aer, llygredd dŵr, halogi pridd, cam-drin gwastraff solet trefol , ac asesiadau effaith amgylcheddol rhai ardaloedd.[8]

Defnyddwyd ffotograffaeth i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am yr angen i amddiffyn tir drwy gydol yr 1950au, 1960au, yr 1970au ac yn ddieddarach, gan recriwtio aelodau newydd i'r cymdeithasau amgyclheddol. Creodd David Brower, Ansel Adams a Nancy Newhall Cyfres Fformat Arddangosfa'r Sierra Club, a helpodd codi ymwybyddiaeth amgylcheddol y cyhoedd a dod a llu o aelodau newydd i'r Sierra Club a'r symudiad amgylcheddol yn gyffredinol. Ataliodd "This Is Dinosaur", a olygwyd gan Wallace Stegner gyda ffotograffau Martin Litton a Philip Hyde, adeiladu argaeau yn y Gofadail Cenedlaethol Deinosor gan ddod yn rhan o fath newydd o actifyddiaeth a elwyd yn amgylcheddaeth wedi ei gyfuno gyda delfrydau chadwraeth Thoreau, Leopold a Muir gyda hysbysebu trawiadol, lobïo, dosbarthiad llyfrau, ymgyrchoedd ysgrifennu llythyrau a mwy. Roedd y defnydd cryf o ffotograffaeth ynghyd a llên ar gyfer cadwraeth yn dyddio'n ôl i sefydliad Parc Cenedlaethol Yosemite, pan darbwyllwyd Abraham Lincoln i ddiogelu'r tirwedd hardd. Galfanyddwyd gwrthwynebiad y cyhoedd at adeiladau argaeau gan yr arddangosfa Sierra Club, ac amddifynnodd nifer o drysorau eraill cenedlaehol yn ogystal. Arweiniodd y Sierra Club clymbleidiau o rwpiau amgyclheddol yn aml, gan gynnwys y Wilderness Society a nifer eraill. Wedi canolbwyntio ar amddiffyn diffeithychau yn yr 1950au a'r 1960au, ehangodd y Sierra Club a grwpiau eraill eu ffocws i gynnwys materion eraill megis llygredd dŵr ac aer, rheolaeth popblogaeth, a ffrwyno camdriniaeth adnoddau naturiol.

Cyhoeddwyd Silent Spring ym 1962 gan y biolegydd Americanaidd Rachel Carson. Catalogodd y llyfr effeithiau amgylcheddol y chwistrelliad diwahân o DDT yn yr Unol Daleithiau, a cwestiynodd y and questioned the rhesymeg tu ôl i ryddhau niferoedd mawr o gemegolion i'r amgylchedd heb ddeallt eu heffaith ar egoleg na iechyd dynol yn gyfan gwbl. Cynnigiodd y llyfr fod DDT a phlaladdwyr eraill yn achosi cancr a bod eu defnydd amaethyddol yn fygythiad i fywyd gwyllt, yn enwedig adar.[9] Arweiniodd y pryder cyhoeddus a ddilynodd tuag at creadigaeth yr United States Environmental Protection Agency ym 1970, a waharddodd defnydd DDT yn yr Unol Daleithiau ym 1972. Mae defnydd cyfyngedig o DDT yn rheolaeth fector clefyd yn parhau hyd heddiw mewn hrai ardaloedd o'r byd ac mae'n parhau i fod yn ddadleuol. Cymynrodd y llyfr oedd i gynhyrchu ymwybyddiaeth llawer mwy ynglyn a materion amgylcheddol a diddordeb yn sut mae pobl yn effeithio'r amylchedd. Gyda'r diddordeb newydd hyn, tyfodd diddordeb mewn problemau megis llygredd aer, gorlifiadau petroliwm. Ffurfiwyd carfanau pwyso, yn nodedig Greenpeace a Chyfeillion y Ddaear.

Ffurfiwyd y Symudiad Chipko movement yn India yn yr 1970au; odan ddylanwad Mohandas Gandhi, sefydlwyd gwrthwynebiad heddychlon i ddatgoedwigo gan gofleidio coed yn llythrennol (ac arwain at y term Saesneg "tree huggers"). Bu eu dulliau heddychlon o brotstio a'u arwyddair "mae ecoleg yn economi parhaol" yn ddylanwadol iawn.

Erbyn canol yr 1970au, teimlodd nifer ein bod ar gyfyl trychineb amgyclheddol. Dechreuodd y Symudiad Back-to-the-land ffurfio syniadau o foesoldeb amgyclheddol, a gyfunwyd gyda theimladau gwrth-ryfel Fietnam a phynciau eraill gwleidyddol. Roedd yr unigolion rhain yn byw y tu allan i'r gymdeithas confensiynol a dechreuont gymryd ymlaen theorïau amgyclheddol mwy radical megis ecoleg dwfn. Tua'r adeg hwn y dechreuodd amgylchedaeth cyffredin ddangos mwy o rym gyda arwyddo'r Ddeddf Rhywogaethau Mewn Perygl ym 1973 a sefydliad y CITES ym 1975.

Ym 1979, cyhoeddodd James Lovelock, cyn-wyddonwr NASA, Gaia: A new look at life on Earth, a gynnigiodd Damcaniaeth Gaia; sy'n cynnig y gall bywyd ar y ddaear gael ei ddealt yn nhermau un organeb. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ideoleg Gwyrdd Dwfn. Mae dalau wedi bod ers hynnu rhwng yr amgylcheddwyr cyffredin a dilynwyr mwy radical yr ideoleg Gwyrdd Dwfn.

Roedd amgylcheddeth hefyd wedi newid i ddelio gyda materion newydd megis cynhesu byd-eang a pheirianeg genetig.

Deddfwriaeth amgylcheddol gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Delwedd:StRolloxChemical 1831.jpg
Cododd lefelau llygredd aer yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, gan sbarduno'r deddfau amgylcheddol modern cyntaf i gael eu pasio yng nghanol y 19g.

Roedd gwreiddiau'r mudiad amgylcheddol yn yr ymateb cymdeithasol i lefelau cynyddol o lygredd a mwg yn yr atmosffer yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Oherwydd ffatrïoedd enfawr a'r twf aruthrol yn y defnydd o lo cafwyd lefel uchel o lygredd aer mewn canolfannau diwydiannol; ar ôl 1900 ychwanegodd y gllyngiadau cemegol diwydiannol at y llwyth cynyddol o wastraff dynol heb ei drin.[10] Daeth y deddfau amgylcheddol modern cyntaf ar raddfa fawr ar ffurf Deddfau Alcali Prydain, a basiwyd ym 1863, i reoleiddio'r llygredd aer niweidiol ( asid hydroclorig nwyol ) a ryddhawyd gan broses Leblanc, a ddefnyddid i gynhyrchu lludw soda. Penodwyd arolygydd Alcali a phedwar is-arolygydd i ffrwyno'r llygredd hwn. Ehangwyd cyfrifoldebau’r arolygiaeth yn raddol, gan arwain at Orchymyn Alcali 1958 a roddodd yr holl ddiwydiannau trwm mawr a oedd yn allyrru mwg, graean, llwch a mygdarth dan oruchwyliaeth.

Symudiadau amgylcheddol cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd diddordeb cynnar yn yr amgylchedd yn nodwedd o'r mudiad Rhamantaidd ar ddechrau'r 19g. Ysgrifennwyd un o'r gweithiau modern cynharaf ar fddatblygiad diwydiannol dynol a'i ddylanwad ar yr amgylchedd gan ddaearyddwr o Japan, addysgwr, athronydd ac awdur Tsunesaburo Makiguchi yn ei gyhoeddiad ym 1903 o'r enw Jinsei Chirigaku (Daearyddiaeth yr Hil Ddynol).[11][12]

Cyn systemau ffiltro, roedd yr allyriadau aer-llygrol o'r gwaith pŵer hwn yn Mecsico Newydd yn cynnwys gormod o sylffwr deuocsid .

Mae'r mudiad amgylcheddol (term sydd weithiau'n cynnwys y symudiadau a'r mudiadau cadwraeth a gwyrdd) yn fudiad gwyddonol, cymdeithasol a gwleidyddol amrywiol. Er bod y mudiad yn cael ei gynrychioli gan ystod o sefydliadau, mae'r mudiad amgylcheddol yn iau nag sy'n gyffredin mewn symudiadau cymdeithasol eraill.

Mae amgylcheddaeth fel mudiad yn cynnwys meysydd eang gan gynnwys er enghraifft: defnyddio ecosystemau ac adnoddau naturiol i wastraff, dympio gwastraff i gymunedau difreintiedig, llygredd aer, llygredd dŵr, seilwaith gwan, amlygiad bywyd organig i docsinau, mono-ddiwylliant, gyriant gwrth-polythen (symudiad jhola) ac amryw eraill. Oherwydd y rhaniadau hyn, gellir categoreiddio'r symudiad amgylcheddol yn syml: gwyddoniaeth amgylcheddol, actifiaeth amgylcheddol, eiriolaeth amgylcheddol, a chyfiawnder amgylcheddol.[13]

Amgylcheddoliaeth y farchnad rydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae amgylcheddaeth y farchnad rydd yn theori sy'n dadlau bod y farchnad rydd, hawliau eiddo a chyfraith camwedd yn darparu'r offer gorau i warchod iechyd a chynaliadwyedd yr amgylchedd.

Sefydliadau a chynadleddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gall sefydliadau amgylcheddol fod yn fyd-eang, rhanbarthol, cenedlaethol neu leol; gallant fod yn cael eu gweinyddu gan y llywodraeth neu'n breifat. Mae gweithgaredd amgylcheddwyr yn bodoli bron ym mhob gwlad. At hynny, mae grwpiau sy'n ymroddedig i ddatblygu cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol hefyd yn canolbwyntio ar bryderon amgylcheddol.

Protestiadau amgylcheddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Delwedd:ClimateCampBAA.jpg
Gweithredwyr hinsawdd yn rhwystro pencadlys Awdurdod Meysydd Awyr Prydain
" Mawrth yn Erbyn Monsanto ", Vancouver, Canada, 25 Mai 2013

Mae protestiadau ac ymgyrchoedd amgylcheddol nodedig yn cynnwys:

Beirniadaeth a safbwyntiau amgen[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llawer o amgylcheddwyr yn credu y dylid cyfyngu neu leihau ymyrraeth ddynol â 'natur' ar frys (er mwyn bywyd, neu'r blaned, neu er budd y rhywogaeth ddynol yn unig), [14] tra bo amheuwyr amgylcheddol a gwrth-amgylcheddwyr yn credu bod angen o'r fath.[15] Gall rhywun hefyd ystyried ei hun yn amgylcheddwr a chredu y dylid cynyddu 'ymyrraeth' dyn â 'natur'.[16][17] Yn gynyddol, mae rhethreg gadwraeth yn cael ei disodli gan ddulliau adfer a mentrau tirwedd mwy sy'n ceisio creu effeithiau mwy cyfannol. [18]

Cymdeithasau a chynadleddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gall cymdeithasau amgylcheddol weithredu'n fyd-eang, yn rhanbarthol, yn genedlaethol neu'n lleol; gallent gael eu rhededeg gan y llywodraeth neu fod yn breifat (Cymdeithas An-llywodraethol). Er fod tueddiad i weld amgylcheddaeth fel rhywbeth a ganolir yn y Gorllewin neu America, mae gan bron pob gwlad rhywfaint o actifyddiaeth amgylcheddol. Mae nifer o rŵpriau sy'n cysegru eu hunain at ddatblygu cymdeithasol a iawnder cymdeithasol hefyd yn rhoi sylw i faterion amgylcheddol.

Mae rhai cymdeithasau o wirffoddolwyr; megis Ecoworld, sy'n canolbwyntio ar waith gwirfoddoli a thîm ynghylch materion amgylcheddol. Mae rhai cymdeithasau Americanaidd, megis y Natural Resources Defense Council a'r Environmental Defense Fund, yn arbennigo mewn dod ad achosion llys (tacteg sydd iw weld yn gymharol ddefnyddiol yr yr Unol Daleithiau). Mae grwpiau eraill Americaniadd megis y National Wildlife Federation, The Nature Conservancy, a The Wilderness Society, a grwpiau byd-eang megis World Wide Fund for Nature a Chyfeillion y Ddaear yn dosbarthu gwybodaeth, ac yn cymryd rhan mewn gwrandawiadau cyhoeddus, lobïo, cynnal gwrthdystiadau, a gallent brynu tir er mwyn cadwraeth. Mae hefyd grwpiau llai megis Wildlife Conservation International, sy'n gwneud ymchwil ar rywogaethau ac ecosystemau sydd mewn perygl. Mae cymdeithasau mwy radical megis Greenpeace, Earth First!, a'r Earth Liberation Front, wedi gwrthwynebu yn uniongyrchol gweithgareddau y maent yn eu cysidro i fod yn niweidiol i'r amgylchedd. Tra bod Greenpeace wedi eu cysegru i wrthdaro di-drais fel modd o dystio yn erbyn camymddwyn a chamdriniaeth amgylcheddol gan ddod a materion i'r parth cyhoeddus er mwyn gallu eu trafod, mae'r Earth Liberation Front yn gymdeithas tanddaearol sy'n dinistrio eiddo, rhyddhau anifeiliaid o'u cewyll a gweithgareddau eraill anghyfreithlon, ond mae tactegau tebyg i hyn yn anarferol iawn yn y symudiad amgylcheddol.

Ar lefel rhyngwladol, bu pryder ynglyn â'r amgylchedd yn destun cynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Stockholm ym 1972, a fynychwyd gan dros 114 gwlad. O'r cynhadledd hwn y datblygodd Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a Chynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd a Datblygaeth ym 1992. Mae cymdeithasau eraill sy'n cefnogi datblygu polisïau amgylcheddol yn cynnwys y Commission for Environmental Cooperation, Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop a'r Intergovernmental Panel on Climate Change.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  •  Jeremiah Hall. History Of The Environmental Movement. Adalwyd ar 2006-11-25.
  •  William Kovarik. Environmental History Timeline. Adalwyd ar 2006-11-25.
  •  Luke Martell (1994). Ecology and Society: An Introduction. Polity Press.
  • de Steiguer, J. Edward. 2006. The Origins of Modern Environmental Thought. The University of Arizona Press. Tucson. 246 pp.
  • John McCormick. 1995. The Global Environmental Movement. John Wiley. London. 312 pp.
  • Marco Verweij and Michael Thompson (eds), 2006, Clumsy solutions for a complex world: Governance, politics and plural perceptions, Basingstoke: Palgrave Macmillan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Environmentalism – Definition and More from the Free Merriam-Webster Dictionary". Merriam-webster.com. 13 August 2010. Cyrchwyd 20 June 2012.
  2. Cat Lincoln (Spring 2009). "Light, Dark and Bright Green Environmentalism". Green Daily. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 April 2009. Cyrchwyd 2 November 2009.
  3. Bowen, Frances, and J. Alberto Aragon-Correa. "Greenwashing in corporate environmentalism research and practice: The importance of what we say and do." (2014): 107-112.
  4. Rowell, Andrew (1996). Green Backlash. Routledge. ISBN 978-0-415-12828-5.
  5. Long, Jeffery D. (2013). Jainism: An Introduction. I.B.Tauris. ISBN 978-0-85773-656-7.
  6. "Jainism Introduction". fore.yale.edu. Yale Forum on Religion and Ecology.
  7. Aboul-Enein, H. Yousuf; Zuhur, Sherifa (2004), Islamic Rulings on Warfare, Strategic Studies Institute, US Army War College, p. 22, ISBN 978-1-58487-177-4
  8. Gari, L. (November 2002), "Arabic Treatises on Environmental Pollution up to the End of the Thirteenth Century", Environment and History 8 (4): 475–88, doi:10.3197/096734002129342747
  9. Rachel Carson (1962). Silent Spring. Boston: Houghton Mifflin
  10. Fleming, James R.; Bethany R. Knorr. "History of the Clean Air Act". American Meteorological Society. Cyrchwyd 14 February 2006.
  11. Odata, Toshihiro (1994). "牧口常三郎 『人生地理学』 の地理学史上の再評価" (yn ja) (pdf). Chiri-Kagaku [Geographical Sciences] 49 (4): 197–212. doi:10.20630/chirikagaku.49.4_197. https://www.jstage.jst.go.jp/article/chirikagaku/49/4/49_KJ00003719645/_pdf/-char/en. Adalwyd 21 August 2018.
  12. "Nature conservation in Britain, ca. 1870–1945". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 January 2013. Cyrchwyd 17 December 2012.
  13. "American Environmental Justice Movement". www.iep.utm.edu. Internet Encyclopedia of Philosophy. Cyrchwyd 15 April 2018.
  14. Huesemann, Michael H., and Joyce A. Huesemann (2011). Technofix: Why Technology Won't Save Us or the Environment, New Society Publishers, Gabriola Island, British Columbia ISBN 0-86571-704-4, 464 pp.
  15. Bakari, Mohamed El-Kamel. "Globalization and Sustainable Development: False Twins?." New Global Studies 7.3: 23–56.
  16. Neil Paul Cummins "An Evolutionary Perspective on the Relationship Between Humans and Their Surroundings: Geoengineering, the Purpose of Life & the Nature of the Universe", Cranmore Publications, 2012.
  17. Vasconcelos, Vitor Vieira (2011). "The Environment Professional and the Touch with Nature". Qualit@s. tt. 1–10.
  18. Mason, Matthew. "Conservation: History and Future". EnvironmentalScience.org.