James Lovelock
James Lovelock | |
---|---|
![]() James Lovelock yn 2005. | |
Ganwyd | 26 Gorffennaf 1919 ![]() Letchworth ![]() |
Bu farw | 26 Gorffennaf 2022 ![]() o complication ![]() Abbotsbury ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | biolegydd, cemegydd, academydd, mythograffydd, ecolegydd, amgylcheddwr, awdur ffuglen wyddonol, biocemegydd, futurist, independent scientist, hunangofiannydd, gwyddonydd ![]() |
Adnabyddus am | electron capture detector, Gaia hypothesis ![]() |
Tad | Tom Arthur Lovelock ![]() |
Mam | Nell March ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, CBE, Dr A. H. Heineken Prize for Environmental Sciences, Volvo Environment Prize, Blue Planet Prize, Cydymaith Anrhydeddus, Gwobr Fonseca, honorary doctor of the University of Kent, doethur anrhydeddus Prifysgol Caeredin, Medal Wollaston, Gwobr Ryngwladol Nonino, Urdd Cymdeithion Anrhydedd ![]() |
Gwefan | http://www.jameslovelock.org/ ![]() |
Gwyddonydd, amgylcheddwr, a dyfodolwr o Sais oedd James Ephraim Lovelock (26 Gorffennaf 1919 – 26 Gorffennaf 2022) sydd yn nodedig am ei ddamcaniaeth "Gaia", sydd yn tybio bod holl fywyd y Ddaear yn rhan o system sydd yn rheoli prosesau arwynebol ac atmosfferig y blaned. Cemegydd a meddyg ydoedd wrth ei addysg, ac er iddo ddal sawl swydd athro fe ddatblygodd ei brif syniadau yn annibynnol, y tu allan i'r byd academaidd. Enillodd enw fel awdur gwyddonol poblogaidd ac ecolegydd o nod. Roedd hefyd yn ddyfeisiwr toreithiog, a derbyniodd ryw 50 o batentau.
Ganed yn Letchworth Garden City, Swydd Hertford, a chafodd ei fagu yn ardal Brixton yn ne Llundain. Astudiodd gemeg ym Mhrifysgol Manceinion a derbyniodd ei radd baglor yno ym 1941. Gweithiodd i'r Cyngor Ymchwil Meddygol yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Meddygol (NIMR), yn Llundain, am ugain mlynedd.[1] Gweithiodd hefyd i Uned Ymchwil yr Annwyd yn Ysbyty Harvard, Caersallog, o 1946 i 1951. Enillodd ddoethuriaeth feddygol o Ysgol Glanweithdra a Meddygaeth Drofannol Llundain ym 1948. Gwobrwywyd iddo gymrodoriaeth deithio o Sefydliad Rockefeller i weithio ar gryo-gadwedigaeth ym Mhrifysgol Harvard o 1954 i 1955, ac ar gromatograffeg nwyon ym Mhrifysgol Yale o 1958 i 1959. Ym 1957, tra'n gweithio gyda'r biocemegydd A. J. P. Martin yn NIMR, dyfeisiodd Lovelock y canfodydd dal electronau (ECD).[2]
Penodwyd Lovelock yn athro yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Baylor, Houston, Texas, o 1961 i 1964. Yn ystod ei gyfnod yn Unol Daleithiau America, gweithiodd yn Labordy Jet-Yriant NASA yn Pasadena, Califfornia, i ddatblygu offer gwyddonol ar gyfer chwiliedyddion gofod, gan gynnwys y rhaglen Viking. Cyfrannodd Lovelock hefyd at ymdrechion MI5 i ddatblygu offer olrhain. Wedi iddo adael Prifysgol Baylor, penodwyd Lovelock yn athro gwadd gan brifysgolion Houston (1964–74) a Reading (1964–89).[2]
Cyd-ddatblygodd Lovelock ddamcaniaeth "Gaia" gyda'r biolegydd Lynn Margulis yn niwedd y 1960au a dechrau'r 1970au. Cyhoeddodd y gyfrol Gaia: A New Look at Life on Earth ym 1979. Byddai'r syniad o'r Ddaear fel uwchorganeb yn hynod o ddadleuol, ond yn raddol enillodd "Gaia" ei plwyf yn y byd academaidd. Ysgrifennodd Lovelock ragor o lyfrau yn ehangu ar ei ddamcaniaeth, gan gynnwys The Ages of Gaia (1988) a Gaia: The Practical Science of Planetary Medicine (1991).
Bu farw ar ei ben-blwydd yn 103 oed yn ei gartref yn Abbotsbury, Dorset.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Pearce Wright a Tim Radford, "James Lovelock obituary", The Guardian (27 Gorffennaf 2022).
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) James Lovelock. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2022.
- ↑ (Saesneg) Helena Horton, "James Lovelock, creator of Gaia hypothesis, dies on 103rd birthday", The Guardian (27 Gorffennaf 2022).
- Academyddion Seisnig
- Cemegwyr Seisnig
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Manceinion
- Dyfeiswyr Seisnig
- Dyfodolwyr
- Genedigaethau 1919
- Gwneuthurwyr offer gwyddonol
- Gwyddonwyr Seisnig yr 20fed ganrif
- Gwyddonwyr Seisnig yr 21ain ganrif
- Llenorion ffeithiol Seisnig yr 20fed ganrif
- Llenorion ffeithiol Seisnig yr 21ain ganrif
- Marwolaethau 2022
- Meddygon Seisnig yr 20fed ganrif
- Meddygon Seisnig yr 21ain ganrif
- Pobl o Brixton
- Pobl o Swydd Hertford
- Ysgolheigion Seisnig yn yr iaith Saesneg