Sylffwr deuocsid
| Enghraifft o: | math o endid cemegol |
|---|---|
| Math | sulfur oxide |
| Màs | 63.962 uned Dalton |
| Fformiwla gemegol | So₂ |
| Rhan o | response to sulfur dioxide, cellular response to sulfur dioxide |
| Yn cynnwys | ocsigen, sylffwr |
| Dynodwyr | |
| SMILES | O=s=o |
| Freebase | /M/0dfwj |
| Thesawrws y BNCF | 31214 |
| CAS | 7446-09-5 |
| PubChem CID | 1119 |
| ChEBI | 18422 |
| InChI | Inchi=1s/o2s/c1-3-2 |
| ChEMBL | Chembl1235997 |
| ChemSpider | 1087 |
| UNII | 0uza3422q4 |
| KEGG | D05961 |
| Rhif EC | 231-195-2 |
| Cofrestr Beilstein | 3535237 |
| Drugbank | Db16426 |
| ECHA | 100.028.359 |
| HMDB | Hmdb0034834 |
| PDB | 1nmd, 1nm1, 2dmr, 1aof, 1nlv, 1ekk, 1d4x, 2x5x, 2hz1, 2hz3, 2fpe, 1oms, 4rkm, 2fzm |
| RxNorm CUI | 1362879 |
Nwy di-liw yw sylffwr deuocsid (SO2) ag iddo arogl treiddgar, taglyd. Prif ffynhonnell sylffwr deuocsid yw llosgi tanwydd ffosil mewn gorsafoedd pwer, purfeydd olew a gweithfeydd diwydiannol mawrion eraill a reolir gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Y sector tanwydd ag ynni yw’r ffynhonnell fwyaf o bell ffordd o sylffwr deuocsid o weithgareddau a reolir gan yr Asiantaeth a’r sector hwn hefyd yw’r ffynhonnell genedlaethol fwyaf, gan gyfrannu 73% o’r cyfanswm cenedlaethol. Mae cerbydau modur, bwyleri a thanau mewn cartrefi hefyd yn rhyddhau sylffwr deuocsid.
Gall sylffwr deuocsid arwain at problemau iechyd, ac yn cael effeithiau uniongyrchol ar lystyfiant acy n chyfrannu at law asid. Gellir cludo sylffwr deuocsid dros bellter maith a gall hyd at draean o’r sylffwr a waddodir mewn rhai mannau yn y DU ddeillio o ffynonellau Ewropeaidd.
Effaith ar eich iechyd
[golygu | golygu cod]Gall sylffwr deuocsid lidio’r llygaid a’r pibellau awyr ac yn lidio leinin eich trwyn, gwddf ac ysgyfaint. Gall achosi i chi dagu, i’ch brest dynhau, ac i’ch llwybr anadlu gulhau a fydd yn lleihau llif aer i’ch ysgyfaint. Mae’n llidio y llwybrau anadlu, gan achosi peswch a mwy o fwcws. Mae’n gwaethygu cyflyrau fel asthma a COPD. Mae’n gwneud pobl yn fwy tebygol o gael haint ar y frest. Mae pobl sydd ag asthma yn llawer mwy sensitif i sylffwr deuocsid na phobl heb asthma, felly efallai y bydd hi’n anoddach iddynt anadlu a byddant yn cael pyliau o’r cyflwr pan fydd crynodiad sylffwr deuocsid yn uchel.

| Cyngor meddygol |
|
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation. Am wybodaeth lawn gweler yr [ erthygl wreiddiol] gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |