Anadlu

Oddi ar Wicipedia
Anadlu
Enghraifft o'r canlynolproses fiolegol Edit this on Wikidata
Mathgas exchange Edit this on Wikidata
Rhan oResbiradu Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmewnanadlu, allananadlu Edit this on Wikidata
Cynnyrchbreath Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Anadlu (neu mewn bioleg: resbiradu) ydy'r broses sy'n tynnu aer i mewn ag allan o'r ysgyfaint.[1] Mae organebau fel mamaliaid, adar ac ymlusgiaid yn tynnu ocsigen i'w cyrff a gelwir y broses hon yn resbiradu erobig. Dyma un o'r prosesau sy'n gwneud y gwaith hwn ond ceir eraill gan gynnwys proses sy'n ymwneud â chylchrediad y gwaed.[2] Defnyddir yr ocsigen ar ffurf metabolig i greu moleciwlau sy'n gyfoethog mewn ynni e.e. glwcos. Mae anadlu hefyd yn cael gwared â charbon deuocsid allan o'r corff.

Mae'r system anadlu yn cynnwys nifer o organau yn y thoracs. Mae aer yn cael ei dynnu i mewn i'r ysgyfaint drwy y tracea neu'r piben wynt. Bydd y tracea yn cael ei rhannu i mewn i ddwy diwb tebyg eraill a gelwir yn bronci. Mae rhain yn arwain i'r ysgyfaint. Tu fewn i'r ysgyfaint bydd yn cael ei rhannu i mwy o bibellau llai sef bronciolynnau. Ar diwedd pob bronciol bydd sach aer neu alfeolws. Yn yr alfeolws bydd ocsigen yn symud i mewn i'r gwaed ac mae carbon deuocsid yn cael ei ysgarthu. Gelwir hyn yn gyfnewid nwyon.

Ceir cyfnewid nwyon (ocsigen a charbon deuocsid) oddi fewn i'r alfeoli. Mae'r nwyon yn ymdoddi i'r gwaed sydd yng nghapilarïau'r ysgyfaint ac mae'r galon yn eu pwmpio o amgylch y corff. Yr enw meddygol am anadlu naturiol ydy "eupnea" neu "anadlu rhwydd"[3]

Sgil effaith anadlu yw colli dŵr o'r corff. Mae canran lleithder yr hyn sy'n cael ei anadlu allan yn 100%.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Peter Raven, George Johnson, Kenneth Mason, Jonathan Losos, Susan Singer (2007). "The capture of oxygen: Respiration". Biology (arg. 8). McGraw-Hill Science/Engineering/Math;. ISBN 0-07-322739-0.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: uses authors parameter (link)
  2. Kevin T. Patton, Gary A. Thibodeau (2009). Anatomy & Physiology (arg. 7). Mosby. ISBN 0-323-05532-X.CS1 maint: uses authors parameter (link)
  3. [Geiriadur yr Academi; tudalen E:481.]
Chwiliwch am Anadlu
yn Wiciadur.